
Mae pedwar o bobl ifanc wedi cael eu cyhuddo o gynnau tân yn dilyn tân yn Neuadd y Sir yn Llangefni.
Fe achoswyd difrod sylweddol i gyn-bencadlys Cyngor Ynys Môn ym mis Rhagyfr 2023.
Cafodd y neuadd ei defnyddio gan Cyngor Tref Llangefni, cyn symud i'r hen adeilad llys, hefyd ar Ffordd Glanhwfa.
Dwyeddod llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Mi fydd y pedwar diffynnydd, na ellir eu henwi am resymau cyfreithiol, yn ymddangos yn Llys Ieuenctid Caernarfon ar ddydd Mercher, 9 Gorffennaf."