Lleidr treisgar wedi'i garcharu am ysbeilio cartref pensiynwr

Wednesday, 21 May 2025 16:51

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn wnaeth fwrglera tŷ dynes oedrannus ac yna dianc o’r wlad wedi ei garcharu am dair blynedd a hanner.

Plediodd Peter Lee (50) yn euog i byrgleriaeth â thrais mewn cyfeiriad ger Brynteg ym mis Hydref 2023.

Mae hyn yn dilyn dedfrydau Billie Jo Kane (27), heb gyfeiriad sefydlog, ac Ieuan Parry (28), o Lanbabo, Rhosgoch ym mis Chwefror am eu rhan yn y digwyddiad.

Yn ystod gyda’r nos 23 Hydref 2023, mi orfododd Lee a Kane eu ffordd i fewn i gartref dynes 83 oed ger Brynteg, Ynys Môn.

Mi ysbeiliodd y lladron gartref y ddynes oedrannus, yn mynnu arian ac yn tollti cannydd ar ddodrefn.

Mi ddatgysylltodd Kane ei llinell ffôn hefyd, er mwyn ei hatal rhag galw am help.

Mi barhaodd Lee fygwth a gwthio’r ddynes cyn cymryd arian parod, goriadau car ac eitemau personol, gan gynnwys lluniau o ddiweddar fab a gŵr y dioddefwr.

Yn dilyn y digwyddiad, mi gafodd yr heddlu hyd i’r car a gafodd ei ddefnyddio’n ystod y fyrgleriaeth, wedi’i gladdu ar dir fferm yn Llandyfrydog. Mi gafodd ei adfer yn ddiweddarach gan yr heddlu.

Ym mis Mehefin 2024, wrth i’r ymchwiliad barhau, mi wnaeth Kane a Lee ddianc i Iwerddon.

Mi gafwyd hyd i Kane ac yna’i gyhuddo ym mis Medi 2024, cyn i Lee gael ei arestio a’i gyhuddo’n ddiweddarach ym mis Tachwedd 2024.

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug yn mis Chwefror, mi gyfaddefodd Billie Jo Kane y fyrgleriaeth o flaen llaw, ac mi gafodd ei garcharu am ddwy flynedd a chwe mis.

Mi gyfaddefodd Ieuan Parry i helpu troseddwr, ac mi gafodd ddedfryd o 16 mis yn y carchar, wedi’i ohirio am 18 mis.

Yn dilyn y ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher, dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Richard Griffith o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae carchariad Lee yn ganlyniad ymchwiliad rhagorol, sydd wedi dod â’r diffynyddion o flaen eu gwell am drosedd ofnadwy, oedd wedi targedu dynes oedrannau a bregus yn ei chartref ei hun."

“Mi gymerodd Lee a Kane eitemau o werth personol mawr oedd yn amhrisiadwy i’r dioddefwr. Yn anffodus, dydy’r rhain byth wedi’u hadfer."

“Ni allwn danbrisio gweithredoedd Kane, ac er na fydd unrhyw ddedfryd yn adlewyrchu’r trawma parhaol mae’r dioddefwr yn ei brofi, ‘dwi’n cymeradwyo ei dewrder drwy gydol yr ymchwiliad.”

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    2:00pm - 4:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'