Lleoliadau gwaith ar gyfer adeiladwyr ifanc

Friday, 14 November 2025 09:43

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Gwynedd

Mae dau berson ifanc o Wynedd wedi cymryd eu camau cyntaf i fyd gwaith adeiladu.

Mae Rhun Pleming a Ben Saunders wedi dechrau lleoliadau gwaith 16 wythnos gydag cwmni OBR Construction ar ddau o safleoedd datblygu tai Tŷ Gwynedd – Dôl Afon Goch yn Llanberis a'r datblygiad yng Nghoed Mawr, Bangor.

Sefydlwyd Academi Adra gan y gymdeithas dai Adra yn 2021 i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu sgiliau a phrofiad yn y diwydiant adeiladu.

Mae Gwaith Gwynedd, sef gwasanaeth Cyngor Gwynedd sy'n cefnogi trigolion i ddod o hyd i waith, yn gweithio'n agos gydag Academi Adra i gysylltu unigolion â'r rhaglen.

Dywedodd Ben Saunders, un o'r unigolion sydd wedi derbyn lleoliad gwaith ar un o safleoedd Tŷ Gwynedd: "Clywais am y cwrs yn gyntaf gan fy mentor gwaith yng Ngwaith Gwynedd. Dywedodd hi wrtha i am y cynllun a sut y gallai fy helpu i ddatblygu sgiliau dw i'n ymddiddori ynddynt."

"Yn ystod fy wythnos o brofiad gwaith gydag OBR, llwyddais i weld yr ystod o yrfaoedd sydd ar gael o fewn y diwydiant adeiladu, fel gwaith saer a phlymio. Cefais brofiad uniongyrchol o sut mae safle adeiladu yn gweithio a sut mae'r gwahanol grefftau'n gweithio gyda'i gilydd."

"Bydd y lleoliad gwaith yma'n caniatáu imi ddatblygu fy sgiliau ymhellach, dysgu am gyfleoedd newydd, a chael cyflog i gynnal fy hun wrth i mi weithio tuag at yrfa llawn amser yn y diwydiant."

"Mae bod ar y cwrs wedi agor fy llygaid i'r posibilrwydd o ddychwelyd i addysg i gryfhau fy sgiliau ac adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer fy nyfodol."

Ar hyn o bryd, mae pedwar safle Tŷ Gwynedd yn cael eu datblygu ym Mangor, Llanberis, Morfa Nefyn, a Llanystumdwy, gyda mwy wedi'u cynllunio.

Y nod yw adeiladu 90 o gartrefi trwy'r cynllun erbyn 2028–29, fel rhan o gynllun gweithredu tai y cyngor.

Dyweddod y Cynghorydd Paul Rowlinson, aelod y cabinet dros tai ac eiddo: "Dw i'n falch iawn bod datblygiadau tai Tŷ Gwynedd Cyngor Gwynedd yn Llanberis a Bangor yn gallu chwarae rhan mewn prosiect mor gadarnhaol."

"Mae cynlluniau fel hyn yn helpu i bontio'r bwlch rhwng addysg a chyflogaeth, ac rydym yn ddiolchgar i Academi Adra, Gwaith Gwynedd ac OBR Construction i helpu greu'r cyfleoedd hyn."

"Nid yn unig y bydd datblygiadau Tŷ Gwynedd yn darparu tai fforddiadwy y mae mawr eu hangen i bobl leol, ond maent hefyd yn creu cyfleoedd i bobl ifanc ennill profiad ymarferol a chymryd y camau cyntaf tuag at gael gyrfaoedd disglair yn y maes adeiladu."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Academi Adra: "Rydym yn hynod o falch o'r hyn mae Ben a Rhun wedi cyflawni yn ystod eu hamser efo ni yn Academi Adra. Mae'r ddau wedi gwneud argraff wych efo'r tîm ar safle OBR ac yn llawn haeddu'r cyfle yma i brofi eu hunain yn y diwydiant."

"Mae Academi Adra yn falch iawn o fedru creu cyfleoedd fel hyn i bobl ifanc lleol, ac rydym yn edrych ymlaen at weld y ddau yn dysgu sgiliau newydd ac yn symud ymlaen i'r cam nesaf yn eu gyrfaoedd o fewn y sector adeiladwaith."

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni OBR: "Mae'n bleser gennym ni fel cwmni lleol rhoi cyfleoedd a phrofiadau i bobl ifanc drwy ddangos yr amrywiaeth o waith sydd o fewn y sector adeiladu."

"Mae'n gyfle gwych iddynt brofi sut mae prosiectau yn cael eu cynnal gan ddatblygu sgiliau ymarferol. Rydym yn gwerthfawrogi ymroddiad a brwdfrydedd Ben a Rhun yn y gweithle."

"Gobeithio bydd y profiad yn gam iddynt i mewn i'r byd adeiladwaith. Diolch i Academi Adra a Chyngor Gwynedd am gael bod yn rhan o'r prosiect pwysig hon."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • The 80s Pulse

    2:00pm - 4:00pm

    Wrap up your afternoon with two hours of classic 80s hits with Steffan Huw on MônFM!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'