
Mae llwybr Llyn Maelog ger Rhosneigr wedi ailagor i'r cyhoedd ar ei newydd wedd.
Mae'r llwybr newydd wedi'i wneud o blastig wedi'i ailgylchu o ffynonellau cynaliadwy a fydd yn para'n hirach na'r hen strwythur pren ac mae'n caniatáu gwell mynediad i fannau gwyrdd lleol.
Mae'r llwybr yn mesur 332m o hyd ac mae'n mynd drwy'r gwelyau cyrs sy'n tyfu ar hyd glannau Llyn Maelog, sy'n safle dynodedig o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SoDdGA) ac yn rhan o dirwedd naturiol Môn (yr hen Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Mae'r Cynghorwyr Neville Evans a Douglas Fowlie, sy'n cynrychioli ward Crigyll, wedi croesawu'r llwybr newydd.
Dwyeddod y Cynghorydd Evans, deilydd portffolio hamdden:"Mae Llyn Maelog yn bwysig iawn i'r gymuned leol ac rydym wrth ein bodd bod y gwaith hwn, a gafodd ei ariannu drwy'r gronfa SPF, wedi cael ei gwblhau a bod y llwybr ar agor unwaith eto."
Fe ychwanegodd y Cynghorydd Fowlie, "Mae'r llwybr newydd yn edrych yn wych. Mae'n well o lawer na'r hen lwybr pren a bydd trigolion ac ymwelwyr yn gallu mwynhau prydferthwch naturiol Llyn Maelog a'r ardal gyfagos am flynyddoedd lawer."
"Diolch i bawb sydd wedi gweithio'n galed ar y prosiect, i adnewyddu'r llwybr pren hen a pheryglus."
Mae'r llwybr newydd yn mesur 1.2m o led ac mae'n cynnwys rhan lletach ar ddechrau'r llwybr (y pen de gorllewinol), un bae pasio a golygfan lletach ar ddiwedd y llwybr (y pen gogledd dwyreiniol). Mae hefyd yn llwybr cyhoeddus.
Elgurodd arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Gary Pritchard. "Rydw i wrth fy modd bod ased cymunedol mor bwysig wedi cael ei adnewyddu. Mawr obeithiaf y bydd yn annog mwy o bobl i ddefnyddio'r llwybr cyhoeddus hwn a llwybrau eraill yn yr ardal er mwyn gwella eu hiechyd."
"Hoffwn ddiolch i'r tîm cyrchfan am sicrhau'r nawdd drwy'r gronfa SPF ac i AE&AT Lewis am wneud gwaith mor dda."
Ariannwyd y gwaith i newid yr hen lwybr pren drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) Llywodraeth y DU a chwblhawyd y gwaith gan gwmni lleol, A E & A T Lewis Cyf.