Llwyddiant y Siarter Iaith yn ysgolion Gwynedd

Friday, 18 July 2025 14:29

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Gwynedd

Mae naw ysgol yng Ngwynedd yn dathlu gwobrau o gynllun y Siarter Iaith.

Mae pedair ysgol wedi ennill y Wobr Aur - y haen uchaf yn y system - gan gynnwys Ysgol Abererch, Ysgol Pen-y-Bryn ym Methesda, Ysgol Rhosgadfan ac Ysgol Pentreuchaf ym Mhwhelli.

Derbyniodd Ysgol Eifionydd ym Mhorthmadog y Wobr Arian - yr ysgol uwchradd gyntaf yn y sir i gael ei dilysu o dan y fframwaith newydd a gyflwynwyd ym mis Medi 2024.

Meddai Catrin Roberts, cydlynydd Siarter Iaith ym Ysgol Eifionydd: "Mae Ysgol Eifionydd yn falch o fod yr ysgol uwchradd gyntaf yng Ngwynedd i dderbyn y wobr arian. Gobeithio fod hyn yn brawf o sefyllfa gref y Gymraeg yn nalgylch Porthmadog. Ymlaen am yr aur!"

Mae cynllun y Siarter Iaith yn cydnabod ymrwymiad i hybu'r iaith Gymraeg a chynyddu ei ddefnydd cymdeithasol yng Nghymru beth bynnag eu cefndir ieithyddol.

Fe ddatblygwyd y Siarter Iaith yn wreiddiol gan Gyngor Gwynedd yn 2013, gyda'r nod o annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg yn naturiol yn yr ysgol ac yn y gymuned.

Bellach, mae'r fframwaith wedi'i mabwysiadu'n genedlaethol gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei gweithredu ar draws y wlad yn unol â nodau Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSGA).

Dwyeddod Annwen Hughes, pennaeth Ysgol Abererch: "Mae pawb yn Ysgol Abererch yn hynod o falch o fod wedi llwyddo i dderbyn Gwobr Aur y Siarter Iaith am y gwaith sydd yn cael ei wneud acw i hyrwyddo'r Gymraeg."

"Cyfle i bawb lwyddo" ydi arwyddair yr ysgol ac mae sicrhau fod pob disgybl yn gallu cael mynediad llawn i holl ddiwylliant Cymru drwy siarad yr iaith bob dydd  yn rhan greiddiol o hyn."

"Mae grŵp o ddisgyblion, Y Dreigiau Bach yn llunio blaenoriaeth Siarter Iaith eu hunain ers sawl blwyddyn bellach ac mae hyn yn gwneud iddyn nhw weld gwerth a phwrpas yn y gwaith a chael cyfle i feddwl am ffyrdd effeithiol o hyrwyddo'r iaith."

"Maent yn monitro y gweithredu ac yn adrodd i lywodraethwyr ar eu cynnydd a'u llwyddiannau."

"Mae'r gweithgareddau fel grwpiau Dreigiau amser chwarae, stori cyn cysgu a prosiectau hwiangerddi wedi bod yn brosiectau gwerth chweil sydd wedi bod yn effeithiol. Mae holl gymuned yr ysgol yn gwybod beth yw y nod a'u rôl nhw i'w gyflawni!"

Mae'r Siarter yn gweithredu drwy system wobrwyo tri cham (efydd, arian ac aur), sy'n asesu cynnydd ac ymroddiad ysgolion i hybu'r iaith yn strategol ac ymarferol.

Mae'r wobr aur yn adlewyrchu gwaith rhagorol wrth greu amgylchedd lle mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio'n naturiol gan ddisgyblion a staff, tra bod y lefel arian ac efydd yn cydnabod ymdrechion parhaol i gryfhau'r defnydd o'r Gymraeg.

Yng Ngwynedd, mae dwy ysgol gynradd wedi ennill y wobr arian - Ysgol Treferthyr yng Nghricieth ac Ysgol Eifion Wyn ym Mhorthmadog.

Enillwyd y wobr efydd gan Ysgol Talsarnau ac Ysgol yr Hendre yng Nghaernarfon.

Dywedodd y Cynghorydd Dewi Jones, aelod y cabinet dros addysg: "Mae 'Gwynedd Gymraeg' yn un o flaenoriaethau'r Cyngor, ac rydym yn ymdrechu i hybu ffyniant y Gymraeg ym mhob rhan o'r sir."

"Rydym am sicrhau bod pob plentyn yng Ngwynedd yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn hyderus yn yr ysgol ac yn gymdeithasol."

"Hoffwn longyfarch pob ysgol ar eu llwyddiant. Dyma adlewyrchiad o ymroddiad parhaus ysgolion Gwynedd i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu ac yn parhau'n ganolog i fywyd disgyblion."

"Mae'r Siarter Iaith yn llawer mwy na phrosiect i'r ysgolion unigol - mae'n gam pwysig tuag at sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r Gymraeg fel rhan ganolog o fywyd bob dydd ein plant."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'