Mae'r heddlu'n ymchwilio i dân amheus ar bont bren yn ardal Maesgeirchen ym Mangor.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Afon Cegin toc cyn 2yb bore Mercher, sydd o fewn y goedwig y tu ôl i Rodfa’r Frenhines.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, cafodd y tân ei gychwyn yn fwriadol gan sylwedd yn cael ei dywallt ar y bont ac yna’i gynnau.
Dweddod llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Mae gofyn bod unrhyw un welodd y digwyddiad neu unrhyw ymddygiad amheus yn yr ardal dros nos yn cysylltu efo’r heddlu."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am yr tan, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu ewch i'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 26000055252.
Fel arall, cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.


Y Gân yw Cân i Gymru 2026
Cân i Gymru yn cyhoeddi rhestr fer
Gwaith ar wella safonau tai cyngor ym Môn
Rhybuddio myfyrwyr am beryglon cetamin
Mwy o arian i adfywio Caergybi