
Mae disgwyl i gannoedd o blant o Fôn gymryd rhan mewn sesiynau diogelwch dŵr fel rhan o'r fenter 'Swim Safe'.
Mae'r sesiynau wedi cael eu trefnu gan Môn Actif, darpariaeth hamdden Cyngor Sir Ynys Môn, Swim Safe UK a'r RNLI a byddant yn cael eu cynnal ar draeth Trearddur dros gyfnod o naw diwrnod a Rhosneigr dros 3 diwrnod.
Dechreuodd y sesiynau ddydd Llun gyda disgyblion o ddwy ysgol yn Llandegfan a Bodedern yn cymryd rhan.
Bydd disgyblion o 23 ysgol gynradd o bob cwr o'r ynys yn dysgu sgiliau diogelwch dŵr hanfodol drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau diddorol sydd wedi cael eu dylunio i'w helpu i gadw'n ddiogel yn y dŵr ac ar y lan a chael hwyl ar yr un pryd.
Mae'r digwyddiad yn cyd-fynd ag Wythnos Atal Boddi – un o ymgyrchoedd diogelwch dŵr mwyaf y Deyrnas Unedig – sy'n cael ei gynnal cyn gwyliau'r haf pan fydd plant yn treulio mwy o amser yn yr awyr agored a phan fo sgiliau diogelwch dŵr yn hanfodol bwysig.
Dyweddod Barry Edwards, rheolwr datblygu chwaraeon Môn Actif: "Rydym yn falch o adeiladu ar lwyddiant y digwyddiadau Swim Safe yr ydym ni wedi'u cynnal yn y gorffennol i addysgu pobl ifanc Ynys Môn am bwysigrwydd diogelwch dŵr."
"Rydym yn ddiolchgar i'r ysgolion lleol am eu cefnogaeth barhaus, ac mae'n wych gweld cymaint o ysgolion o bob cwr o'r ynys yn cymryd rhan yn y sesiynau hyn a chael hwyl."
Derbyniodd Môn Actif gydnabyddiaeth yn gynharach eleni am ei ymrwymiad i ddiogelwch dŵr. Cyflwynwyd y wobr 'Effaith ar Nofio a Diogelwch Dŵr Mewn Ysgolion 2024' i'r staff yng ngwobrau blynyddol Nofio Cymru yng Nghaerdydd.
Mae'r wobr yn dathlu llwyddiant Môn Actif a ddarparodd sesiynau i dros 500 o blant lleol yn ystod 2024 fel eu bod yn dysgu sgiliau diogelwch dŵr hanfodol.
Dyweddod y Cynghorydd Neville Evans, deilydd portffolio ar gyfer Hamdden ar Cyngor Ynys Môn: "Mae'n bwysig bod plant, yn enwedig plant sy'n byw ar ynys, yn dysgu sut i nofio'n ddiogel ac yn gwybod beth i'w wneud os ydynt yn mynd i drybini yn y dŵr."
"Unwaith eto, rydw i'n falch o weld bod sesiynau Swim Safe yn cael eu cynnal yma ar Ynys Môn, a hoffwn ddiolch i Môn Actif a'n partneriaid am drefnu'r sesiynau hyn lle gall plant ddysgu a chael hwyl ar yr un pryd."
Fe ychwanegodd, "Mae'r mentrau hyn yn pwysleisio ein hymrwymiad i gadw'n plant a'n pobl ifanc yn ddiogel."
Mae Môn Actif yn cynnig gwersi nofio i dros 40 ysgol ar Ynys Môn, ac yn gweithio i sicrhau bod pob disgybl yng Nghyfnod Allweddol 2 yn cael cyfle i ddysgu sut i nofio a chadw'n ddiogel.
Mae'r ysgolion sy'n cymryd rhan yn y sesiynau yn cynnwys:
- Dydd Mawrth 10 Mehefin: Ysgol Llanfawr a Ysgol Cybi
- Dydd Mercher 11 Mehefin: Ysgol Y Fali, Ysgol Y Tywyn ac Ysgol Santes Dwynwen
- Dydd Iau 12 Mehefin: Ysgol Rhosybol ac Ysgol Pencarnisiog
- Dydd Llun 16 Mehefin: Ysgol Rhyd y Llan a Santes Fair
- Dydd Mawrth 17 Mehefin: Ysgol Morswyn ac Ysgol Amlwch
- Dydd Mercher 18 Mehefin: Ysgol Ffridd ac Ysgol Llanfechell
- Dydd Iau, 19 Mehefin: Ysgol Rhosneigr ac Ysgol Henblas
- Dydd Llun 23 Mehefin: Ysgol Llanfairpwll
- Dydd Mawrth 24 Mehefin: Ysgol Y Graig ac Ysgol Corn Hir
- Dydd Mercher 25 Mehefin: Ysgol Biwmares ac Ysgol Parc Y Bont
- Dydd Iau 26 Mehefin: Ysgol Kingsland ac Ysgol Llangoed