
Mae prosiect newydd yn anelu at ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o lafnau tyrbinau llif lanw yng Nghymru, gyda'r potensial i drawsnewid y diwydiant ynni'r llanw.
Bydd cwmni Menter Môn yn ymuno â Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC) Cymru, sydd wedi'i lleoli ym Mrychdyn, a thîm Catapwlt Ynni Adnewyddadwy ar y Môr (ORE) Cymru i wella effeithlonrwydd, gwydnwch a pherfformiad cyffredinol llafnau ynni llanw.
Mae'r prosiect yn un o bump i dderbyn cyfran o £1 miliwn gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r rhaglen VInnovate, sy'n cael ei rhedeg gan Fenter Vanguard (VI) i hyrwyddo arloesedd cydweithredol ar draws rhanbarthau diwydiannol yn Ewrop, gan ganolbwyntio ar fentrau bach a chanolig (BBaChau).
Hefyd yn rhan o'r prosiect mae dau gwmni o Galisia – Magallanes Renovables, gwneuthurwr seilwaith ynni adnewyddadwy morol, a D3 Applied Technologies, sefydliad ymchwil sy'n arbenigo ym meysydd aerodynameg a hydrodynameg.
Dywedodd Andy Silcox, prif swyddog technoleg dros dro yn yr AMRC: "Mae Cymru eisoes yn cael ei chydnabod fel arloeswr o ran sefydlu safleoedd ynni llanw, ac yn ganolfan ar gyfer ymchwil ynni morol arloesol, gan gyfrannu ei gwybodaeth a'i phrofiad helaeth."
"Bydd y cydweithrediad hwn rhwng AMRC Cymru, y Catapwlt Ynni Adnewyddadwy ar y Môr a Menter Môn yn creu partneriaeth strategol rhwng rhanbarthau Cymru a Galisia, gan ddod â chyfuniad unigryw o arbenigedd ac arloesedd ym maes ynni adnewyddadwy at ei gilydd."
"Gan gefnogi dylunio a datblygu'r llafnau tyrbin llanw diweddaraf, bydd y prosiect yn gosod y sylfaen ar gyfer cydweithrediad parhaol, gan sbarduno arloesi a phrosiectau yn y dyfodol ym maes ynni adnewyddadwy i gyfrannu at sefyllfa ynni mwy cynaliadwy."
Derbyniodd mwy o brosiectau o Gymru gyllid yn y gyfran ariannu VInnovate 2024 nag unrhyw ranbarth arall ac mae busnesau bach a chanolig bellach yn cael eu gwahodd i wneud cais am gyllid VInnovate 2025.
Dwyeddod Rebecca Evans, ysgrifenydd dros yr economi: "Mae sector ymchwil a datblygu Cymru yn enwog yn rhyngwladol, gyda'r byd academaidd, diwydiant a'r llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd i gymryd camau mawr ym maes arloesi gydag ynni adnewyddadwy yn arbennig."
"Mae'r diwylliant hwn o arloesi wedi ei hyrwyddo a'i arwain gan ein strategaeth Cymu yn Arloesi, gan osod y sylfeini ar gyfer dyfodol gwyrdd a ffyniannus i Gymru sy'n cael ei yrru gan arloesedd cydweithredol a thechnolegau newydd a all gael effaith gadarnhaol wirioneddol a pharhaol ar bob rhan o'n cymdeithas."
"Rwy'n annog sefydliadau i fanteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir gan raglenni fel hyn i feddwl ar raddfa fawr, cydweithio yn rhyngwladol a chryfhau ein hecosystem arloesi a'n galluoedd gweithgynhyrchu uwch ymhellach."