Mae dau brosiect adfywio yng nghanol tref Caergybi wedi sicrhau dros £1.3 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Bydd £435,000 yn cael ei wario ar brynu ac ailddatblygu yr hen llys ynadon ar Stryd Stanley - mae adeilad olaf y llys ar Ynys Môn wedi bod yn wag ers cau yn 2016.
Mae prosiect arall wedi derbyn £935,700 i wella mynediad i ganol y dref a darparu mannau cyhoeddus amlswyddogaethol.
Bydd 20 o brosiectau adfywio ledled Cymru yn rhannu bron i £31 miliwn o gyllid o raglen Trawsnewid Trefi.
Dywedodd Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Jayne Bryant: "Mae hyn yn ymwneud â mwy nag adeiladau — mae'n ymwneud â rhoi hyder i bobl yn y lle maen nhw'n ei alw'n gartref, denu swyddi i'r ardal leol, a gwneud yn siŵr bod adfywio yn cyrraedd pob cornel o Gymru."
"Mae ehangder y buddsoddiad ledled Cymru — o Ynys Môn i'r Cymoedd — yn dangos ein bod yn benderfynol nad oes unrhyw gymuned yn cael ei gadael ar ôl, ac y gall pob rhan o Gymru elwa ar waith adnewyddu."
Mae gwaith yn parhau ar gynllun adfywio mawr i wrthdroi dirywiad canol tref Caergybi, un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Mewn datblygiadau diweddar, mae sinema'r Empire wedi ailagor fel canolfan gymunedol ac mae gwaith adnewyddu wedi bod yn cymryd lle ar ddau adeliad amlwg.


Y Gân yw Cân i Gymru 2026
Cân i Gymru yn cyhoeddi rhestr fer
Gwaith ar wella safonau tai cyngor ym Môn
Rhybuddio myfyrwyr am beryglon cetamin
Wylfa SMR: gweinidogion yn targedu'r buddion mwyaf