Mae cynghorwyr wedi cytuno i wario mwy o arian ar wella ysgol uwchradd ym Mangor.
Bydd bron i £24 miliwn yn cael ei wario ar raglen foderneiddio yn Ysgol Tryfan, wedi i gabinet Cyngor Gwynedd gytuno i gynyddu'r gyllideb.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys codi adeiladau newydd, gwneud gwelliannau sylweddol i adeiladau sydd eisoes yn sefyll a gwella adnoddau a chyfleusterau chwaraeon.
Bydd y proseict hefyd yn cynyddu capasiti yr ysgol i 650 o ddisgyblion - ond mae'r cynlluniau'n amodol ar gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn cyfrannu £15.3 miliwn.
Bydd Cyngor Gwynedd yn cyfrannu £8.3 miliwn o'r buddsoddiad - cynnydd o bron i £2 filiwn mewn ymateb i gostau cynyddol.
Dwyeddod Dr Geraint Owen Jones, pennaeth a chyn-ddisgybl Ysgol Tryfan: "Mae hwn yn gam pwysig ymlaen tuag at sicrhau bod ein disgyblion yn cael eu haddysgu mewn amgylchedd modern, diogel ac addas i'r dyfodol."
"Ers ei sefydlu yn 1978, mae Ysgol Tryfan wedi bod yn rhan ganolog o gymuned Bangor, gan ddarparu addysg cyfrwng Gymraeg o safon i genedlaethau o bobl ifanc. Ymfalchïwn yn ein traddodiad o feithrin doniau, hyrwyddo diwylliant Cymraeg a chynnig cyfleoedd eang i'n disgyblion."
"Mae'r buddsoddiad newydd hwn yn sicrhau y gallwn barhau â'r weledigaeth ac edrychwn ymlaen at bennod nesaf yr ysgol mewn cyfleusterau sy'n adlewyrchu anghenion yr 21ain ganrif."
"Bydd y gwelliannau arfaethedig yn cynnig cyfleoedd dysgu cyfoethog i'n pobl ifanc ac yn cefnogi ein hymrwymiad tuag at ragoriaeth."
Ychwanegodd y Cynghorydd Dewi Jones, aelod y cabinet dros addysg: "Mae gwneud yn siŵr bod holl blant Gwynedd yn cael eu haddysgu mewn adeiladau modern a ffit i bwrpas yn flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd."
"Mae ein cynlluniau ar gyfer Ysgol Tryfan yn enghraifft dda o sut mae adrannau'r cyngor yn gallu cydweithio gyda chymuned yr ysgol er budd ein pobl ifanc a'r staff dysgu."
"Law yn llaw efo hyn, mae'r cyngor hwn wedi ymrwymo i leihau ein allyriadau carbon ac i weithio mewn ffordd amgylcheddol gyfeillgar."
"Bydd y cynlluniau hyn ar gyfer Ysgol Tryfan yn golygu bydd yr ysgol yn lleihau ei ôl-throed carbon yn sylweddol, gan arwain hefyd at fod yn fwy cost-effeithiol i'w rhedeg i'r dyfodol."
"Fel unrhyw brosiect sylweddol arall, mae'n cymryd amser i symud y gwaith yn ei flaen a dwi'n ddiolchgar i'r ysgol am eu hamynedd wrth i'n swyddogion wneud y gwaith cefndirol."
"Yn anffodus, ers i ni ddechrau trafod y prosiect yma, mae costau chwyddiant ynghyd â chost deunyddiau adeiladu wedi cynyddu'n sylweddol a dyma pam rydym wedi rhoi caniatâd heddiw i drosglwyddo £1.96 miliwn yn ychwanegol o gynllun rheoli asedau'r cyngor."
"Rydw i'n falch ein bod wedi cyrraedd y cam yma yn y broses ac yn edrych ymlaen i weld cynnydd y gwaith ar y safle ynghyd â gwelliannau sylweddol i'r ysgol pan bydd y gwaith wedi ei gwblhau; a gweld sut bydd yr adnoddau newydd yn cyfoethogi profiadau addysgol disgyblion Ysgol Tryfan."
Ychwanegodd Dr Geraint Owen Jones: "Manteisiaf ar y cyfle i ddiolch i Gyngor Gwynedd, Llywodraeth Cymru, ein rhieni, Llywodraethwyr a'n cymuned leol am eu cefnogaeth a'u hamynedd wrth i'r cynlluniau a'r bwriadau hyn ddod i'r amlwg."
"Edrychwn ymlaen at y trafodaethau nesaf, i weld y gwaith yn datblygu, ac at y manteision hirdymor i'n disgyblion, ein staff gweithgar a'r gymuned ehangach."


Carcharu dyn o Lanystumdwy am stelcio
Cyngor yn wynebu dirwy am fethu targed ailgylchu
Dysgwyr yn codi arian ar gyfer Eisteddfod yr Urdd
Porthaethwy: dyn yn pledio'n euog i ddelio cyffuriau
Dirwy o £20,000 am waith trydanol anniogel