
Mae Cyngor Gwynedd yn annog ymwelwyr a thrigolion i gynllunio eu hymweliad ac unrhyw weithgareddau dros wyliau'r haf.
Bydd yr awdurdod lleol yn cydweithio'n agos gyda phartneriaid lleol - gan gynnwys yr heddlu a Pharc Cenedlaethol Eryri - i annog pobl i ymddwyn yn gyfrifol o gwmpas y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, aelod y cabinet dros amgylchedd: "Bob blwyddyn mae nifer fawr o bobl yn ymweld â mannau poblogaidd yma yng Ngwynedd."
"Rydym yn falch o gael croesawu pobl o bell ac agos i fwynhau'r hyn sydd gan Wynedd i'w gynnig, ond rydym hefyd yn annog pobl i fod yn barchus a chynllunio'u hymweliadau o flaen llaw; o ddefnyddio'r meysydd parcio priodol i ddefnyddio gwasanaethau bws i grwydro'r ardal."
"Gofynnwn i fodurwyr barchu'r cyfyngiadau parcio a chadw'r ffyrdd yn ddi-rwystr a diogel."
"Cofiwch fod gwasanaeth bws Sherpa'r Wyddfa yn cysylltu llwybrau poblogaidd Yr Wyddfa a'r trefi a'r pentrefi cyfagos, ac mae'r bysus yn rhedeg yn amlach dros gyfnod yr haf."
Mae'r cyngor yn pwysleisio tair neges allweddol - cynllunio o flaen llaw, parciwch yn gyfrifol a parchwch cymunedau.
Ychwanegodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, aeold y cabinet dros economi a chymuned: "Mae arfordir Gwynedd yn wirioneddol hyfryd, ond mae'n bwysig bod pawb sy'n ymweld yn ymwybodol o beryglon yr arfordir ac yn trin yr amgylchedd naturiol gyda pharch."
"Gwiriwch y tywydd a'r llanw cyn mentro a rhowch wybod i rywun ble rydych yn mynd."
"Cofiwch hefyd i gefnogi ein busnesau lleol sy'n rhan hanfodol o'n cymunedau ar eich ymweliad â Gwynedd."