
Mae darpar wyddonwyr ifanc yn parhau i gael cyfle unwaith mewn oes, diolch i haelioni teulu o Langefni.
Sefydlwyd Ysgoloriaeth Tomos Wyn Morgan yn 2015 ac mae’n caniatáu i’r myfyriwr gwyddoniaeth chweched dosbarth mwyaf disglair o Ynys Môn fynychu fforwm wyddoniaeth fawr ei bri, sef Fforwm Wyddoniaeth Ieuenctid Ryngwladol yn Llundain.
Mae’r fforwm yn ddigwyddiad preswyl sy’n cael ei gynnal yn yr Coleg Imperial dros gyfnod o bythefnos, ac mae’n denu dros 500 o’r gwyddonwyr ifanc mwyaf disglair, rhwng 16 a 21 oed, o bob cwr o’r byd, gyda dros 70 o wledydd yn cymryd rhan.
Sefydlwyd yr ysgoloriaeth er cof am Tomos Wyn Morgan, a fu farw’n sydyn yn 2014 yn 30 oed.
Penderfynodd ei deulu gofio amdano trwy roi cyfle i fyfyrwyr eraill fwynhau’r un profiadau ac y cafodd yntau pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Llangefni.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae gwyddonwyr mwyaf disglair Ynys Môn wedi elwa’n fawr o fynychu’r fforwm. Enillydd yr ysgoloriaeth eleni oedd Dylan Thorpe o Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy.
Dywedodd Dylan: "Rydw i wrth fy modd fy mod yn cael y cyfle anhygoel hwn ac rydw i’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y fforwm, sy’n cael ei gynnal am y 66ain tro eleni. Rydw i’n ddiolchgar iawn i’r teulu Morgan am y cyfle unigryw hwn."
Mae’r enillydd y llynedd, Mili-Anne Archer o Ysgol Uwchradd Bodedern, wedi canmol y cyfle yn ogystal: "Roedd mynychu Fforwm Wyddoniaeth Ieuenctid Ryngwladol Llundain yn brofiad anhygoel."
"Cefais fwynhau darlithoedd ac arddangosfeydd gan wyddonwyr blaenllaw ac ymweld â labordai a phrifysgolion o’r radd flaenaf. Roedd yn gyfle gwych hefyd i gwrdd â phobl newydd o bob cwr o’r byd a oedd â diddordeb mewn gwyddoniaeth."
Mae’r teulu Morgan yn parhau i noddi’r ysgoloriaeth sydd werth £2,000 y flwyddyn. Mae’n cael ei dyfarnu ar eu rhan gan Gyngor Ynys Môn ar ôl i arbenigwr annibynnol asesu cyflwyniadau disgyblion.
Mae rhieni Tomos yn egluro mwy: "Roedd Tomos yn ddyn ifanc talentog a bu’n ddigon ffodus i gael ei ddewis i fynychu Fforwm Wyddoniaeth Ieuenctid Ryngwladol Llundain pan oedd yn ddisgybl ysgol. Roedd hynny’n ysbrydoliaeth fawr iddo, gan ehangu ei orwelion."
"Cafodd ei ysgogi gan ragoriaeth y darlithoedd ac fe wnaeth o gyfarfod â phobol ifanc o wahanol gefndiroedd a fu’n ffrindiau iddo tan ei farwolaeth."
“Bwriad Tomos oedd dychwelyd i Gymru i sefydlu menter a fyddai o fudd i bobl leol. Byddai’n falch o wybod mai ei waddol oedd rhoi’r un cyfle gwerthfawr i fwy o bobl ifanc o Ynys Môn, megis Dylan, ac y cafodd yntau pan fynychodd y fforwm wyddoniaeth yn Llundain.”
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, sy'n dal y portffolio addysg a'r Gymraeg ar Gyngor Ynys Môn: "Mae’r ysgoloriaeth hon yn cynnig profiad anhygoel i fyfyrwyr mwyaf disglair y sir. Mae’n eu galluogi i gwrdd â chyfoedion o bob cwr o’r byd a datblygu eu hawch tuag at wyddoniaeth."
"Rydym yn ddiolchgar iawn i’r teulu Morgan. Mae eu cefnogaeth barhaus yn helpu i ysbrydoli a meithrin y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr o Fôn, sy’n deyrnged glodwiw i Tomos."