Myfyrwyr Lefel A yn derbyn graddau

Thursday, 14 August 2025 12:08

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae myfyrwyr Lefel A ac AS yn Ynys Môn a Gwynedd wedi cael eu llongyfarch ar eu canlyniadau.

Mae’r Cyngor Môn yn anfon ei ddymuniadau gorau at bob person ifanc ac yn cydnabod y gefnogaeth hanfodol y mae’r bobl ifanc wedi’i derbyn gan ysgolion, teuluoedd a’r gymuned ehangach.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, sy'n dal y portffolio addysg: "Hoffwn longyfarch bob person ifanc ar Ynys Môn sy’n derbyn eu canlyniadau heddiw. Dymuniadau gorau i chi ar eich pennod nesaf p’un a ydych yn parhau â’ch addysg neu’n mentro i fyd gwaith."

"Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i’r staff yn ein hysgolion, yn ogystal â rhieni a theuluoedd y bobl ifanc yma, am eu am eu harweiniad, eu hanogaeth a'u brwdfrydedd drwy gydol eu hastudiaethau."

Mae'r cyngor sir hefyd yn anogir dysgwyr ar yr ynys i ystyried yr opsiynau sydd ar gael iddynt ac i ofyn am gyngor ac arweiniad fel y gallant fentro i’r cam nesaf yn hyderus.

Dwyeddod Aaron C Evans, cyfarwyddwr addysg, sgiliau a phobl ifanc Cyngor Môn: "Hoffwn longyfarch bob un o’r dysgwyr ar eu llwyddiant. Mae’ch dyfalbarhad, eich gwydnwch a’ch ymroddiad i’ch astudiaethau ac i barhau i ddysgu yn haeddu clod."

"Hoffwn gydnabod cyfraniad amhrisiadwy ein hathrawon, staff ategol, teuluoedd a phartneriaid eraill yn ogystal. Drwy gydweithio, fel tîm, gallwn gefnogi pawb i lwyddo."

"Os nad ydych yn siŵr beth i’w neud nesaf neu’n ansicr ynglŷn â’r opsiynau sydd ar gael i chi mae cyngor ar gael yn yr ysgol neu gan Gyrfa Cymru. Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar ein gwefan newydd Llwybrau i Lwyddiant  - pob lwc i chi ar eich pennod nesaf."

Roedd Cyngor Gwynedd yn falch iawn gyda'r canlyniadau Lefel A, Uwch Gyfrannol a chanlyniadau galwedigaethol cyfatebol yn ysgolion uwchradd y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Dewi Jones, aelod y cabinet dros addysg: "Mae llwyddiant ein pobl ifanc gyda'u canlyniadau heddiw yn adlewyrchiad clir o'u hymroddiad a'u dyfalbarhad."

"Mae'n bleser mawr gennyf eu llongyfarch ar gyrraedd cerrig milltir mor bwysig, ac estyn diolch o galon i'r athrawon a'r staff ysgolion sydd wedi chwarae rhan allweddol wrth eu paratoi ar gyfer y cymwysterau hyn."

"Wrth i'n myfyrwyr symud ymlaen at gyfleoedd newydd a chyffrous, hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddynt yn eu gyrfaoedd i'r dyfodol."

Cyfeiriodd y Pennaeth Addysg hefyd at ei falchder yn llwyddiant myfyrwyr Gwynedd yn yr arholiadau uwch gyfrannol, gan ddymuno'n dda iawn iddynt oll yn eu Lefel A y flwyddyn nesaf.

Meddai Gwern ap Rhisiart: "Unwaith eto eleni, mae'n bleser cael datgan fy malchder gyda chanlyniadau ysgolion Gwynedd. Llongyfarchiadau mawr i'r myfyrwyr a'r athrawon ar eu llwyddiant."

"Rwy'n estyn diolch arbennig i'r ysgolion a'r athrawon am eu proffesiynoldeb a'u hymroddiad parhaus, i'r myfyrwyr am eu hymdrechion sylweddol ac i'w teuluoedd am eu cefnogaeth barhaus. Mae cyfraniad pob un ohonynt wedi bod yn allweddol i'r llwyddiant rydym yn ei ddathlu heddiw."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'