
Bu naw o bobl ifanc o Ynys Môn nodi carreg filltir sylweddol yn ddiweddar wrth iddynt fynychu seremoni arbennig ym Mhalas Buckingham.
Cafodd Osian a Niamh Reid a Molly Harwood o Ysgol Uwchradd Caergybi, Beca Stuart a Cerys Michael o Ysgol Gyfun Llangefni ynghyd â Nel Scott, Cira Williams a'r chwiorydd Awen a Llio Mutembo o Ysgol David Hughes eu cyflwyno â Gwobr Aur Dug Caeredin.
Y Wobr Aur yw'r lefel uchaf o Wobr Dug Caeredin a gall gymryd hyd at ddwy flynedd i'w gwblhau.
O dan arweiniad a chefnogaeth Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Môn, rhaid i'r rhai sy'n cymryd rhan gyflawni rhaglen heriol o weithgareddau sy'n cynnwys taith pedwar diwrnod, gwirfoddoli, gweithgaredd gorfforol, dysgu sgiliau newydd a chymryd rhan mewn prosiect preswyl.
Drwy gydol y daith bu'r grŵp fagu hyder, datblygu eu galluoedd gwaith tîm a datblygu'r gallu i wneud pethau'n annibynnol.
Cyflawnodd nifer o'r rhai o Fôn a oedd yn cymryd rhan eu gweithgareddau cerdded ym Mharc Cenedlaethol Eryri tra bu eraill yn crwydro llwybr arfordirol yr ynys fel rhan o'u gwobrau efydd ac arian.
Mae'r profiadau hyn wedi eu cynorthwyo i ddatblygu eu gwybodaeth o dirluniau a threftadaeth lleol.
Gan adlewyrchu ar ei phrofiad, dywedodd Molly Harwood: "Roedd cwblhau fy Ngwobr Aur Dug Caeredin yn her go iawn ond yn gyffredinol profiad na fyddaf byth yn ei anghofio."
"Cefais fy ngwthio tu hwnt i'r hyn yr oeddwn yn meddwl oedd yn bosibl, dysgais wytnwch, annibyniaeth a gwaith tîm a bydd yr atgofion a'r sgiliau a gefais yn aros efo mi ym mhob rhan o fy mywyd yn y dyfodol."
Dywedodd Niamh Reid: "Mae cymryd rhan yn y profiad hwn wedi fy helpu i ddatblygu fy hyder ac i ddatblygu sgiliau newydd, yn enwedig o ran gwaith tîm a chyfathrebu."
"Un o'r heriau mwyaf oedd gwneud pethau nad oeddwn mor gyfarwydd â nhw ond dysgais wytnwch a sut i ddal i fynd wrth i bethau fynd yn anodd."
"Dysgais hefyd sut i wrando ar eraill a chyfrannu fy syniadau fy hun. Roedd o'n rhywbeth gwerth chweil a buaswn yn ei argymell i unrhyw un – mae'n ffordd dda o ddysgu, gwneud ffrindiau newydd a gallwch synnu eich hun o ran yr hyn y gallwch ei gyflawni."
Dywedodd Sioned Sawicz, swyddog ysgol ac ardal yng ngwasanaeth ieuenctid gan Cyngor Ynys Môn: "Rydym yn hynod falch o'r holl bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yng Ngwobrau Dug Caeredin ym Môn."
"Maent wedi gweithio'n galed a dangos gwir gymeriad a phenderfynoldeb er mwyn cyflawni'r Safon Aur. Roedd ymweld â Phalas Buckingham er mwyn casglu eu gwobrau yn brofiad bythgofiadwy, rhywbeth y byddant yn ei gofio am oes rwy'n siŵr."
Ychwanegodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, sy'n dal y portffolio addysg: "Llongyfarchiadau i'n holl enillwyr diweddar ar y Wobr Aur. Mae'r siwrnai i gyflawni Dyfarniad Aur Gwobr Dug Caeredin yn darparu sgiliau bywyd pwysig ac atgofion rhagorol."
"Hoffwn ddymuno'n dda iddynt ar y bennod nesaf, boed hynny ym myd addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. Da iawn bawb!"
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yng Ngwobrau Dug Caeredin, e-bost SionedSawicz@ynysmon.llyw.cymru