Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am wrthdroi penderfyniad ar ddau wasanaeth rheilffordd allweddol yng Ngogledd Cymru.
Mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth wedi mynegi ei "bryder dwfn" am benderfyniad a wnaed gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR) i leihau dau wasanaeth Avanti sy'n effeithio ar Ogledd Cymru a'r goroau yn ei newid amserlen ym mis Rhagfyr.
Mewn llythyr at brief weithredwr yr OOR, dyweddod Ken Skates: "Mae lleihau'r gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol Avanti rhwng Caer ac Euston yn Llunain a'r gwasanaeth dydd Sul rhwng Caergybi ac Euston yn siomedig iawn i deithwyr yng Ngogledd Cymru."
"Mae cysylltedd dibynadwy yn hanfodol i Ogledd Cymru – nid yn unig i drigolion a busnesau ond hefyd ar gyfer cynnal twf economaidd a denu buddsoddiad."
"Bydd dileu'r gwasanaeth uniongyrchol 19:32 o Gaer yn effeithio'n sylweddol ar amseroedd teithio a chyfleustra, gan greu rhwystrau i gymudwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd a chosb cyfnewidfa ddwbl i deithwyr o Ogledd Cymru."
Ychwanegodd Mr Skates, sydd hefyd yn weinidog dros y Gogledd: "Mae perygl i'r newid hwn danseilio cystadleurwydd rhanbarthol ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella cysylltedd trawsffiniol."
"Mae'r gwasanaeth o Gaergybi i Euston yn gyswllt hanfodol sy'n cefnogi'r economi ymwelwyr yng Ngogledd Cymru."
Aeth ymlaen i annog yr ORR i ailystyried eu penderfyniad a gweithio'n agos gyda gweithredwyr i gynnal y gwasanaethau hyn i sicrhau bod Gogledd Cymru yn parhau i fod wedi'i gysylltu'n dda â rhwydwaith y DU.
|
|


Y Gân yw Cân i Gymru 2026
Cân i Gymru yn cyhoeddi rhestr fer
Gwaith ar wella safonau tai cyngor ym Môn
Rhybuddio myfyrwyr am beryglon cetamin
Mwy o arian i adfywio Caergybi