Nifer swyddi niwclear 'ar ei isaf erioed' ym Môn

Monday, 15 September 2025 18:04

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae nifer y swyddi niwclear ar Ynys Môn wedi gostwng i'r lefel isaf erioed, yn ôl adroddiad newydd.

Mae Cyngor Ynys Môn wedi ategu pryderon a godwyd gan y Nuclear Industry Association (NIA) am ddirywiad y sector niwclear yng Nghymru a'r angen uniongyrchol am ddatblygiad newydd yn Wylfa.

Yn ôl adroddiad yr NIA, mae 307 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector niwclear - na'r 795 o swyddi a gofnodwyd yn 2015 - er bod Wylfa'n cael ei gydnabod yn eang fel prif safle'r DU ar gyfer datblygiad niwclear newydd.

Dyweddod arweinydd y cyngor, Gary Pritchard: "Mae'r dirywiad sylweddol yn nifer o swyddi niwclear ar Ynys Môn wedi'i waethygu gan oediadau cyson gan Lywodraeth y DU i sicrhau prosiect newydd yn Wylfa."

"Yn ei anterth, roedd yr hen orsaf Magnox yn darparu mwy na 1,400 o swyddi da cyn dechrau datgomisiynu yn 2015, gyda chymunedau ledled Gogledd Ynys Môn yn dibynnu ar y gyflogaeth honno."

"Mae colli cyflogwyr mawr eraill, megis Rehau ac Octel yn Amlwch wedi gwaethygu heriau economaidd yn ystod y ddau ddegawd diwethaf."

"Gyda dim ond cyfleoedd cyfyngedig ar gael, mae nifer o breswylwyr oed gweithio - sydd gan amlaf yn siaradwyr Cymraeg - wedi gadael yr Ynys gyda'u teuluoedd, gan adael poblogaeth sy'n heneiddio ar eu hôl a phwysau cynyddol ar economi leol sydd eisoes yn fregus."

Mae'r wythnos hwn yn nodi pum mlynedd ers i Hitachi gyhoeddi ei fod yn tynnu'n ôl o brosiect Wylfa Newydd, ond ers hynn, mae Ynys Môn "wedi clywed sawl stori wahanol, ond wedi gweld ychydig iawn o gynnydd", yn ôl Mr Pritchard.

Ychwanegodd, "Mae Map Swyddi 2025 NIA yn profi'r hyn rydym yn ei ailadrodd dro ar ôl tro ac wedi bod yn lobio ar ei gyfer: mae datblygiad niwclear newydd yn Wylfa - boed yn ar raddfa GW neu SMR - yn angenrheidiol ar gyfer ffyniant yr Ynys yn y dyfodol, yn enwedig yng Ngogledd Ynys Môn."

"Yr hyn sydd ei angen gan Lywodraeth y DU bellach yw penderfyniadau cadarn, amserlenni clir a chanlyniadau go iawn, nid mwy o addewidion camarweiniol. Mae pobl Ynys Môn yn haeddu cynllun a gweithredoedd y gallent ymddiried ynddynt - dim mwy o obeithion gwag."

Mae'r cyngor wedi ail-alw ar Lywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru, y NIA, yr Awdurdod Lleol a phartneriaid allweddol eraill i symud y prosiect niwclear newydd yn ei flaen yn Wylfa, "heb unrhyw oedi pellach".

Elgurodd Dylan J Williams, prif weithredwr Cyngor Môn: "Mae Ynys Môn yn wynebu heriau nad oes modd i'r Cyngor, a'r sector cyhoeddus fynd i'r afael â nhw ar eu pen eu hunain."

"Bydd sicrhau buddsoddiad sylweddol gan y sector preifat yn hollbwysig, a chael datblygiad niwclear newydd yn Wylfa yw'r cyfle gorau un ar gyfer creu newid hirdymor, trawsnewidiol ar gyfer yr ardal."

"Yr hyn sydd ei angen arnom bellach yw sicrwydd gan Lywodraeth y DU - ymrwymiad clir y bydd datblygiad yn dod i Wylfa. Bydd y sicrwydd hwnnw'n ein galluogi ni i baratoi'n hyderus, gweithio gyda'n cymunedau, a rhoi sicrwydd i'r bobl hynny sydd ei angen."

"Ar yr un pryd, mae'n bwysig bod unrhyw ddatblygiad newydd yn gwarchod yr hyn sy'n gwneud Ynys Môn yn unigryw, gan gynnwys yr iaith Gymraeg a'r diwylliant, yn ogystal â chreu dyfodol cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau i ddod."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'