
Bydd patrolau ychwanegol ar waith yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch yn ystod penwythnos Gŵyl y Banc.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), bu cynnydd yn nifer yr ymwelwyr sy’n cynnau tân a barbeciws, y ddau ohonynt wedi’u gwahardd.
At hynny, mae gwersylla ar y safle yn anghyfreithlon o hyd, a gallai’r rhai sy’n cael eu dal wynebu dirwy.
Bydd swyddogion heddlu a CNC yn patrolio’r safle i atal tanau, barbeciws a gwersylla anghyfreithlon.
Bydd meysydd parcio’r safle yn cau pan fyddant yn llawn - disgwylir y bydd hynny cyn 10yb, sy’n golygu na fydd modd i gerbydau gyrraedd y safle, ac ni fyddant yn ailagor tan yn hwyrach yn y prynhawn hyd yn oed wrth i fannau parcio ddod ar gael.
Dwyeddod Dylan Williams, rheolwr gweithrediadau CNC yn y Gogledd Orwellin: "Rydyn ni’n disgwyl nifer uchel o ymwelwyr y penwythnos hwn ac yn atgoffa pobl bod gwaharddiad llawn ar waith o hyd ar gyfer pob barbeciw a thân yn dilyn cynnydd mewn digwyddiadau."
"Yn dilyn y tywydd eithriadol o sych, dim ond un wreichionen mae’n ei gymryd i gychwyn tân a allai ddinistrio bywyd gwyllt a chymunedau a rhoi ein gwasanaethau brys o dan bwysau ychwanegol."
"Rydyn ni hefyd am atgoffa ymwelwyr na chaniateir aros dros nos. Mae’r safle yn gartref i rai o gynefinoedd mwyaf gwerthfawr Cymru ac mae’n cefnogi amrywiaeth o fywyd gwyllt prin."
"Rhaid cadw cydbwysedd rhwng dymuniadau unigolion i fwynhau’r awyr agored a’n cyfrifoldebau i warchod natur a pharchu cymunedau lleol."
"Mae mwyafrif llethol y bobl sy’n ymweld yn ymddwyn yn gyfrifol a hoffem ddiolch iddyn nhw am wneud eu rhan. Rydym yn gobeithio y bydd hynny’n parhau wrth i ni gychwyn ar benwythnos gŵyl y banc."
Bydd swyddogion gorfodi sifil can Cyngor Ynys Sir Ynys Môn yn dal ati i batrolio a gorfodi mesurau parcio ym mhentref Niwbwrch ac ar yr A4080 Llyn Parc Mawr, a gofynnir i unrhyw un sy’n ymweld â’r ardal i barcio’n ddiogel, yn gyfreithlon ac yn gyfrifol.
Ychwanegodd llefarydd ar ran CNC: "Nod hyn yw hwyluso llif traffig ac atal ceir rhag parcio ym mhentref Niwbwrch wrth iddynt ddisgwyl i leoedd ddod ar gael yn y maes parcio."
"Nod arall y dull hwn o weithredu yw diogelu bywyd gwyllt gwerthfawr y safle – a gwella profiad ymwelwyr a lleihau tagfeydd."
"Rydym hefyd yn gofyn i ymwelwyr ystyried ymweld ag un o’r nifer o draethau a chyrchfannau eraill ar Ynys Môn."