Niwbwrch: ymdrechion newydd i fynd i'r afael â phroblemau parcio

Friday, 23 May 2025 15:06

By Ystafell Newyddion MônFM

Geograph (Colin Park)

Mae newidiadau yn digwydd i barcio yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch.

Mae graddfa brisiau newydd yn cael ei chyflwyno yn y maes parcio ynghyd â threial a fydd yn atal mynediad i gerbydau ar ôl i'r maes parcio lenwi - gan gynnwys pan fydd lleoedd ar gael.

Bydd y prisiau newydd yn berthnasol i feysydd parcio’r Prif Draeth, Airman a Chwningar a byddant yn dod i rym ar ddydd Gwener 23 Mai.

Y pris am hyd at ddwy awr fydd £5 ac yna 70c am bob 20 munud ychwanegol gydag uchafswm tâl dyddiol o £15.

Ni chaniateir parcio dros nos na gwersylla a gallai'r rhai sy'n gwneud hynny wynebu dirwy.

Bydd parcio am ddim i ddeiliaid Bathodyn Glas a phreswylwyr yn aros yr un fath.

Bydd tocynnau tymor a thocynnau tymor gostyngol ar gyfer trigolion Ynys Môn y tu allan i'r ardaloedd sydd â hawl i barcio am ddim, yn dal i gostio’r un faint ag y maen nhw ar hyn o bryd .

Bydd treial o gau meysydd parcio ar y safle tan 4.30pm unwaith y byddant yn llawn yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun (24 - 26 Mai) i liniaru llif traffig a thagfeydd a cheisio atal ceir rhag parcio ym mhentref Niwbwrch i ddisgwyl i leoedd ddod ar gael.

Meddai Richard Berry, arweinydd tîm rheoli tir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn y Gogledd Orllewin: "Mae'r strwythur prisio newydd yn adlewyrchu strwythur parcio traethau eraill ar Ynys Môn er mwyn sicrhau bod y safle yn gyson ag ardaloedd eraill."

"Hoffem roi sicrwydd i drigolion nad yw'r newidiadau hyn yn effeithio ar docynnau am ddim, bathodynnau glas, tocynnau gostyngol a thymhorol."

"Bydd y treial yn atal cerbydau rhag mynd i mewn i’r safle unwaith y bydd y maes parcio yn llawn - mae hyn yn digwydd fel arfer ar ôl 11am neu'n gynt yn ystod gwyliau’r banc, penwythnosau a chyfnodau o dywydd da."

"Hyd yn oed wrth i geir adael y safle ac wrth i leoedd dod ar gael, ni chaniateir mynediad i gerbydau tan ar ôl 4.30yp."

"Rydym yn gobeithio y bydd y dull hwn yn diogelu bywyd gwyllt gwerthfawr y safle, yn gwella profiad ymwelwyr ac yn lleihau tagfeydd yn y pentref lle mae modurwyr, ar hyn o bryd, yn disgwyl tan fydd lle parcio ar gael ar y safle."

"Felly, rydym yn gofyn i ymwelwyr ystyried ymweld ar adegau tawelach neu fynd draw i un o'r nifer o draethau a chyrchfannau eraill ar Ynys Môn."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    2:00pm - 4:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'