Mae Cyngor Gwynedd yn cynnig parcio am ddim yn ei hol feysydd parcio yn y cyfnod cyn Nadolig.
Mae cynnig parcio yn rhan o ymgyrch i annog siopa'n lleol a chefnogi busnesau'r sir.
Bydd ffioedd yn cael eu dileu o 11yb bob dydd o dydd Sadwrn 13 tan dydd Sadwrn 27 Rhagfyr.
Dyweodd y Cynghorydd Craig ab Iago, aelod y cabinet dros amgylchedd: "Mae siopau a busnesau Gwynedd yn rhan bwysig iawn o economi'r sir ac rydym yn gobeithio y bydd y cynnig parcio yn y cyfnod sy'n arwain at y Nadolig yn cynnig hwb iddynt."
"Bydd hyn yn rhoi cyfle i drigolion gymryd mantais o'r cynnig parcio a chefnogi'r amrywiaeth o fusnesau arbennig sydd gan Wynedd i'w gynnig."
Ymgyrch ym meysydd parcio cyhoeddus talu ac arddangos Cyngor Gwynedd ydi hwn a bydd ffioedd yn ail-gychwyn o ddydd Sul 28 Rhagfyr.


Dyn o Fae Cemaes yn cyfaddef delio cyffuriau
Carcharu dyn am ymddygiad rheolaethol
Ymestyn gorchymyn diogelu ym Mangor
Mwy o arian i ailwampio Ysgol Tryfan
Carcharu dyn o Lanystumdwy am stelcio