Bydd parth dan waharddiad mewn safle gwarchodedig ar arfordir Môn yn dychwelyd yn dilyn "arwyddion calonogol" o adferiad bywyd gwyllt.
Mae’r parth dan waharddiad yn cwmpasu rhan 1.8 milltir o hyd o’r arfordir o fewn Comin Penrhosfeilw, sy’n rhan o safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SoDdGA) Glannau Ynys Gybi.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau y bydd y gwaharddiad yn rhedeg o dydd Llun nesaf (2 Mawrth) tan diwedd mis Awst.
Mae’r ardal hon ar dir sydd dan brydles i RSPB Cymru gan Gyngor Ynys Môn, ac mae’n rhan bwysig o warchodfa natur Ynys Lawd.
Meddai Euros Jones, rheolwr gweithrediadau CNC: "Llwyddodd y parth dan waharddiad y llynedd i leihau effaith gweithgareddau nad oedd perchennog neu ddeiliad y tir yn eu caniatáu, a oedd wedi achosi aflonyddwch i fywyd gwyllt a difrod i ddaeareg y safle."
"Mae’r dystiolaeth hyd yn hyn yn awgrymu y gall cyfyngu ar fynediad mewn ardaloedd penodol ein cefnogi i ddiogelu cynefinoedd a rhywogaethau o flaenoriaeth. Bydd cadw’r gwaharddiad ar gyfer 2026 yn caniatáu adferiad pellach, monitro parhaus ac amser i bawb ddal ati i drafod."
Yn ystod 2025, cododd niferoedd y gwylanod yn yr ardal i’w lefel uchaf ar gofnod, gan gynyddu o ddim ond 14 i dros 40.
Gwelwyd morloi bach ar draeth lle nad oeddent wedi’u cofnodi o’r blaen, a dychwelodd piod môr i ardal o glogwyn lle nad oeddent wedi’u gweld ers dros ddegawd.
Cynyddodd gweithgareddau brain coesgoch hefyd, gydag adar yn dal tiriogaeth a allai ddatblygu’n safle bridio newydd. Gall gymryd sawl blwyddyn i’r frân goesgoch ailsefydlu, felly mae lleihau’r aflonyddu wedi bod yn hanfodol i wella eu tynged.
Dangosodd planhigion pen-clogwyn arwyddion o adferiad hefyd, gyda llai o sathru yn caniatáu i lystyfiant bregus ddechrau adfywio.
Yn ôl yr RSPB yn Ynys Lawd, rhoddodd y parth dan waharddiad yn 2025 seibiant yr oedd mawr ei angen i fywyd gwyllt Comin Penrhosfeilw.
Dywedodd Laura Kudelska, uwch reolwr y safle: "Roeddem wrth ein bodd o gofnodi niferoedd uwch o forloi ac adar yn bridio ar y safle, yn ogystal â gweld arwyddion o adferiad planhigion."
"Ni fyddai’r llwyddiannau hyn wedi bod yn bosibl heb gydweithrediad y cyhoedd, a hoffem ddiolch i ymwelwyr am gadw at y llwybr troed, ac i ddarparwyr gweithgareddau am ddilyn y canllawiau."
"Bydd y parth newydd dan waharddiad eleni yn rhoi mwy o amser i fywyd gwyllt adfer, a thros y flwyddyn nesaf byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i greu ffordd ymlaen gyda defnyddwyr yr arfordir."
Nod ymestyn y parth dan waharddiad yw adeiladu ar y cynnydd hwn drwy gefnogi mynediad cynaliadwy.
Bydd arwyddion newydd a mapiau sensitifrwydd yn helpu ymwelwyr i ddeall pa ardaloedd y mae’n rhaid eu hosgoi yn ystod y tymor bridio, a bydd gwaith monitro yn mynd yn ei flaen drwy gydol 2026 i olrhain newidiadau pellach yn y bywyd gwyllt.
Mae’r gwaharddiad yn berthnasol i dir mynediad agored rhwng Llwybr Arfordir Cymru a’r môr o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy.
Gall aelodau’r cyhoedd barhau i fwynhau’r llwybr arfordirol yn llawn, ond ni chaniateir mynediad i’r tir islaw’r llwybr heb ganiatâd perchennog neu ddeiliad y tir.
Meddai Andy Godber, rheolwr ardaloedd arfordirol Cyngor Môn: "Rydym yn parhau i gefnogi’r gwaith hwn i sicrhau bod safleoedd planhigion ac anifeiliaid prin yn cael eu gwarchod."
"Mae’n braf bod sefydliadau cadwraeth perthnasol yn gweithio’n agos gyda chyrff cynrychioliadol y sector awyr agored i ddod o hyd i ateb hirdymor lle caiff mynediad priodol ei hwyluso."
"Bydd hyn hefyd yn sicrhau y gellir trosglwyddo gwell dealltwriaeth o amgylchedd naturiol unigryw’r safle i’r cyhoedd."
Ychwanegodd Catherine Williams, prif weithredwr Eryri Actif: "Rydym yn ymrwymo i barhau i weithio mewn partneriaeth er mwyn cefnogi mynediad i’r safle yn y dyfodol, gan sicrhau ei fod yn cael ei reoli’n gyfrifol i ddiogelu’r safle arbennig hyn."
"Mae cael cytundebau ffurfiol ar waith yn gam pwysig, ac rydym yn gobeithio gweld cynnydd cyn i’r cyfnod gwahardd ddod i ben."
"Mae gweithgareddau antur awyr agored yn darparu buddion llesiant pwysig a chyfle unigryw i addysgu ymwelwyr am yr amgylchedd yng Ngwarchodfa RSPB Ynys Lawd."


Y Gân yw Cân i Gymru 2026
Cân i Gymru yn cyhoeddi rhestr fer
Gwaith ar wella safonau tai cyngor ym Môn
Rhybuddio myfyrwyr am beryglon cetamin
Mwy o arian i adfywio Caergybi