Pentraeth: carcharu dyn am llosgi fflatiau

Wednesday, 6 August 2025 23:27

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn wedi cael ei garcharu am ymosodiad llosgi bwriadol mewn bloc o fflatiau ym Mhentraeth.

Pleidiodd Caleb Corr, 33 oed, yn euog yn dilyn tân mewn adeilad yn y pentref ar 13eg Mai.

Ar ôl cyrraedd deallwyd bod Corr wedi cynnau'r tân a bod ganddo gyllell yn rhwystro'r gwasanaeth tân rhag mynd i mewn i'r adeilad i fynd i'r afael â'r tân.

Aeth swyddogion i mewn i'r fflat a dal Corr cyn i ddiffoddwyr tân wneud yr adeilad yn ddiogel i'r trigolion.

Cafodd ei garcharu am bedair blynedd ar gyfer losgi bwriadol a bod yn ddiofal ynglŷn â pheryglu bywyd, affráe a difrod troseddol.

Yn dilyn dedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug, dyweddod PC Dion Hughes o Heddlu Gogledd Cymru: "Roedd ymddygiad Corr yn ystod y noson honno yn beryglus gan iddo roi bywydau’r bobl a oedd yn byw yn y fflatiau mewn perygl trwy gychwyn tân bwriadol."

"Mae'n ffodus na wnaeth y tân ledaenu ymhellach, diolch i weithredoedd chwim y trigolion eraill neu mi allai pethau fod wedi bod lawer mwy difrifol."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Brecwast MônFM gyda Kev Bach

    7:00am - 10:00am

    Bore da! Mae Kev Bach yn nôl i ddeffro Ynys Môn a Gwynedd!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'