Mae dyn 29 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ger Pentraeth wedi cael ei enwi.
Bu farw Thomas Arwyn Jones mewn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A5025 fore Sul 25 Ionawr.
Roedd Mr Jones yn gyrru car Peugeot 208 llwyd pan wrthdarodd â char Audi A5 Quattro aur ychydig rhwng rhwng Pen-y-garnedd a safle delwriaeth Pentraeth Automotive toc wedi 6.45am.
Fe gafodd dyn 22 oed y cerbyd Audi ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Bydd crwner Gogledd Orllewin Cymru, Kate Robinson, yn agor cwest i farwolaeth Mr Jones yng Nghaernarfon ddydd Iau 11 Chwefror.


Y Gân yw Cân i Gymru 2026
Cân i Gymru yn cyhoeddi rhestr fer
Gwaith ar wella safonau tai cyngor ym Môn
Rhybuddio myfyrwyr am beryglon cetamin
Mwy o arian i adfywio Caergybi