Pont Menai i ailagor 'yn y dyddiau nesaf'

Tuesday, 7 October 2025 12:42

By Ystafell Newyddion MônFM

LC

Bydd Pont Menai yn ailagor yn rhannol yn y dyddiau nesaf, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Disgwylir i'r ailagor rhannol hwn weithredu rhwng 7yb a 7yh a bydd y bont ar gau yn llwyr dros nos.

Yn ystod yr oriau gweithredu, dim ond cerbydau hyd at 3 thunnell fydd yn gallu croesi, a bydd mesurau rheoli traffig ac un llif traffig oddi ar yr ynys ar waith yn y bore ac i mewn i'r ynys ar waith yn y prynhawn.

Bydd disgwyl i feicwyr ddod oddi ar eu beiciau wrth groesi'r bont a defnyddio'r droedffordd i gerddwyr a bydd trefniadau mynediad brys ar gyfer ambiwlansys nad ydynt yn gallu croesi Pont Britannia ar waith.

Mae'r bont wedi bod ar gau dros dro i bob cerbyd ers dydd Sadwrn, ond mae trafodaethau'n parhau rhwng Llywodraeth Cymru a UK Highways A55 a Heddlu Gogledd Cymru.

Dyweddod llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd yr union amserlenni a'r camau gorfodi yn cael eu cadarnhau cyn gynted ag y cytunir ar gynllun yn llawn."

"Bydd gwaith yn digwydd ar yr un pryd i wneud yr atgyweiriadau angenrheidiol i'r bolltau. Byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau rheolaidd pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael."

"Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra a achoswyd i'r gymuned leol a hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd parhaus wrth i ni geisio datrys y mater brys hwn."

Dyweddod Llinos Medi, Aelod Seneddol Plaid Cymru: "Yn dilyn cyfarfodydd pellach, dw i'n disgwyl rhagor o wybodaeth ynghylch ailagor rhannol y bont yn fuan iawn."

 

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    11:00am - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'