Porth Llechog: dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad

Saturday, 1 November 2025 01:39

By Ystafell Newyddion MônFM

Geograph (Robin Drayton)

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd ym mhentref Porth Llechog ger Amlwch.

Yn ôl yr heddlu, roedd y Nissan Micra coch yn cael ei yrru o gyfeiriad Amlwch a gwrthdarodd â wal ar yr A5025 toc wedi 1.30yp brynhawn Gwener.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, cyhoeddwyd bod oedd yn teithio yn y car wedi marw yn y fan a'r lle. Mae ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod.

 

Fe gafodd y ddynes oedd yn gyrru'r car ei chludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor gyda mân anafiadau.

Cafodd y gwasanaethau brys, gan gynnwys yr Ambiwlans Awyr Cymru, eu galw i'r lleoliad a cafodd y ffordd ei chau am gyfnod.

Dywedodd y Rhingyll Leigh McCann o’r Uned Troseddau Ffyrdd: "Mae ein meddyliau’n parhau gyda theulu’r dyn yn ystod yr amser anodd hwn."

"Rydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd yr A5025 drwy Borth Llechog ac sydd hefo lluniau camera dashcam o’r gwrthdrawiad, gan gynnwys y cyfnod cyn y digwyddiad, i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl."

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y gwrthdrawiad, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r wefan, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod C168879.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'