Porthaethwy: arestio dau yn dilyn atafaelu arfau

Friday, 6 June 2025 14:45

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio yn dilyn darganfod arfau ym Mhorthaethwy.

Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Tysilio tua 9yb bore Gwener yn dilyn adroddiadau am weld arfau yn yr ardal.

Mae'r dynion lleol, 21 a 30 oed, wedi'i arestio ar amheuaeth o feddu.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mae nifer o arfau wedi cael eu hadfer ac mae chwiliadau'n parhau.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Arwel Hughes: "Mae dau ddyn yn parhau yn y ddalfa tra bod ein hymholiadau'n parhau.

"Dwi'n ddiolchgar i bobl leol am eu cefnogaeth a'u hamynedd y bore yma.

"Ni fyddwn yn goddef ymddygiad treisgar a byddwn yn mynd ar ôl yr unigolion hynny sy'n ceisio achosi dioddefaint i bobl eraill a'n cymunedau.

"Bydd presenoldeb yr heddlu yn parhau tra byddwn yn cynnal ein hymchwiliadau.

"Bydd rhagor o waith plismona yn cael ei gynllunio yn yr ardal yn y dyfodol, a byddwn yn annog unrhyw un sydd â phryderon am eu hardal leol i gysylltu â ni."

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'