Mae dyn 30 oed wedi pledio'n euog i ddelio cyffuriau yn dilyn cyrch ym Mhorthaethwy.
Cafodd Aaron Maher ei aretio a'i gyhuddo o fod yn ymwneud hefo cyflenwi cocên a chanabis, yn dilyn gwarant ddydd Iau diwethaf.
Yn Llys Ynadon Llandudno, pleidiodd Maher yn euog a chafodd ei gadw yn y ddalfa dros wyliau'r Nadolig.
Bydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener 9 Ionawr.
Dywedodd Rhingyll Dylan Thomas o Heddlu Gogledd Cymru: "Byddwn yn parhau targedu gwerthu cyffuriau yng nghymunedau Ynys Môn gan y rhai sy'n ceisio achosi niwed i rai o'n trigolion mwyaf bregus ni."
"Dwi'n rhoi sicrwydd i aelodau'r gymuned ein bod ni'n gwrando ar eich pryderon chi ac y byddwn ni'n gweithredu'n gyflym i wneud Ynys Môn yn lle saff i fyw, gweithio ac ymweld."
"Fe wnaethon ni gydweithio hefo cydweithwyr o Heddlu Glannau Mersi ar y warant hon a diolch iddyn nhw am eu help parhaus."


Y Gân yw Cân i Gymru 2026
Cân i Gymru yn cyhoeddi rhestr fer
Gwaith ar wella safonau tai cyngor ym Môn
Rhybuddio myfyrwyr am beryglon cetamin
Mwy o arian i adfywio Caergybi