
Mae Porthladd Rhydd Ynys Môn wedi croesawu prosbectws cenedlaethol newydd ar gyfer porthladdoedd Cymru.
Yn ôl yr ysgrifennydd economi Rebecca Evans, mae daearyddiaeth unigryw, lleoliad strategol a degawdau o arbenigedd morwrol a diwydiannol yn gosod porthladdoedd Cymru yn "borth naturiol i ddatgloi potensial rhyfeddol gwynt ar y môr".
Cafodd y prosbectws Llywrodaeth Cymru ei lansio yn ystod cynhadledd Dyfodol Cymru yng Nghasnewydd ddydd Mawrth.
Rhagwelir y bydd y sector gwynt ar y môr yn creu 29,000 o swyddi, yn sicrhau effaith economaidd o £4.5 biliwn, ac yn pweru dros bedair miliwn o gartrefi ledled Cymru erbyn 2030. Rhagwelir y bydd cyfanswm capasiti gwynt ar y môr yn cyrraedd dros 20 gigawat ledled Cymru erbyn 2045.
Dywedodd Rebecca Evans: "Mae chwyldro ynni glân y DU yn gyfle mewn cenhedlaeth i adeiladu dyfodol glanach, mwy ffyniannus i'n cymunedau wrth ddarparu'r seilwaith sydd ei angen ar Brydain ar gyfer diogeledd ynni."
"Mae Cymru wrth wraidd y trawsnewidiad ynni glân – gydag arfordir sy'n darparu harbyrau dŵr dwfn naturiol, agosrwydd at barthau les gwynt mawr, a chadwyn gyflenwi ystwyth, parod i gynyddu, rydym yn cynrychioli un o leoliadau mwyaf strategol Ewrop ar gyfer datblygu gwynt ar y môr."
"Mae ein prosbectws porthladdoedd yn amlinellu sut mae ein dull gweithredu o ran gwynt ar y môr yn gydweithredol, wedi'i dargedu ac yn strategol, gan sicrhau gwerth hirdymor i fuddsoddwyr a chymunedau fel ei gilydd."
Mae dau Borthladd Rhydd Cymru - ym Môn ac ym Mhort Talbot ac Aberdaugleddau - yn darparu cymhellion treth i fuddsoddwyr, prosesau tollau symlach, a safleoedd sy'n barod ar gyfer eu datblygu, tra bod ystod eang o gymorth ariannol ar gael i gwmnïau drwy raglenni buddsoddi a seilwaith.
Dywedodd Ian Davies, pennaeth awdurdodau porthladdoedd yn Stena Line yn y DU: "Rydym wedi ymrwymo i wireddu potensial ein hagosrwydd at Borthladd Caergybi, yr ail borthladd Ro-Ro mwyaf yn y DU, yn ogystal â'r manteision a roddir gan y dynodiad Porthladd Rhydd a safle unigryw Ynys Môn i ddarparu ynni carbon isel."
"Edrychwn ymlaen at gydweithio pellach â Llywodraethau Cymru a'r DU i ddenu buddsoddiad, amddiffyn yr iaith a'r diwylliant Cymraeg, a chreu miloedd o swyddi, sgiliau a chyfleoedd hyfforddi newydd."
Ar arfordir Gogledd Cymru, mae dros 500 o dyrbinau gwynt eisoes wedi'u lleoli o Borthladd Mostyn yn Sir y Fflint, a lle mae Cymru yn gartref i fferm wynt ar y môr cyntaf â gwaelod sefydlog yn y DU.
Ychwanegodd Jim O'Toole, rheolwr gyfarwyddwr Porthladd Mostyn: "Mae'r prosbectws porthladdoedd yn tynnu sylw at hanes llwyddiannus Mostyn o weithio gyda chwmnïau yn y sector gwynt ar y môr."
"Hyd yn hyn, rydym wedi defnyddio dros 500 o dyrbinau ac rydym yn y broses o ddatblygu seilwaith glan cei amlbwrpas newydd ar gyfer prosiectau sylfaen sefydlog ac arnofiol yn y dyfodol."
"Mae'r porthladd hefyd wedi caffael tir diwydiannol cyfagos yn ddiweddar i gynnig cyfleusterau gweithgynhyrchu a threfnu gwell."