Pryderon am berfformiad bargen twf y Gogledd

Wednesday, 17 September 2025 00:05

By Ystafell Newyddion MônFM

Geograph (Andrew Woodvine)

Mae pwyllgor Senedd wedi codi pryderon difrifol ynghylch perfformiad bargen twf rhanbarthol yng Ngolgledd Cymru.

Mae'r cytundeb wedi cael trafferthion ar ôl i un o'i phrosiectau allweddol, Trawsfynydd, fynd i'r gwellt.

Yn ôl Uchelgais Gogledd Cymru, dim ond 35 o swyddi sydd wedi cael eu hyd yma ac ni chafwyd ond £1.8 miliwn mewn buddsoddiadau gan y sector preifat.

Mae adroddiad newydd gan bwyllgor economi’r Senedd am eglurder ar frys ynghylch cyllid ac am adolygiad o brosesau gwneud penderfyniadau.

Yn ôl yr adroddiad, mae penderfyniad Great British Nuclear i beidio ag ystyried Trawsfynydd fel safle ar gyfer adweithyddion modiwlar bach wedi cael effaith fawr, gan fod y prosiect, yn wreiddiol, i fod i ddarparu 12.5% o dargedau swyddi a 40% o'r nodau buddsoddi.

Dyweddod Andrew RT Davies, cadeirydd y pwyllgor: "Dylai'r pedair bargen ddinesig a thwf fod yn sbardun allweddol ar gyfer twf economaidd yng Nghymru, gan greu dyfodol economaidd disglair."

"Er bod arwyddion addawol, yn enwedig ym Mae Abertawe, rhaid inni fynd i'r afael â phryderon difrifol, yn enwedig yng Ngogledd Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am eglurder ar frys ynghylch y cyllid sydd ar gael ar gyfer Bargen Twf y Gogledd."

"Mae monitro priodol ac arweinyddiaeth gyson yn hanfodol i sicrhau bod pob Bargen yn cael ei chefnogi i gyrraedd y targedau uchelgeisiol ac i gyflawni o ran y buddsoddiad cyhoeddus sylweddol. Mae tryloywder, eglurder a gweledigaeth hirdymor yn hanfodol."

Mae'r addrodiad hefyd yn codi pryderon am yr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae'r grŵp o ddeg cyngor lleol yn Ne-ddwyrain Cymru yn wynebu "heriau mawr" o ran ailddatblygu safle gorsaf bŵer Aberddawan ym Mro Morgannwg.

Arweiniodd anghydfod caffael at setliad o £5.25 miliwn ac mae adolygiad annibynnol ar y gweill. Mae'n bosibl y bydd angen dros £1 biliwn i ddatblygu'r safle, a brynwyd am £8.6 miliwn gyda £30 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer gwaith dymchwel.

Dwyeddod llefarydd ar ran y pwyllgor: "Er gwaethaf diddordeb cryf o du buddsoddwyr, mae'r Pwyllgor yn pryderu ynghylch maint y cyllid sydd ei angen a'r effaith bosibl ar gyllid cyhoeddus."

Mae'r pwyllgor wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn annog monitro agosach o fuddsoddiadau ym mhedair bargen twf rhanbarthau a dinesig Cymru, sydd yn gyfrifol am gyfran sylweddol o gyllid cyhoeddus.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Gwyn Owen

    10:00am - Noon

    Join Gwyn for two hours of music to finish the morning

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'