
Mae dyn 57 oed wedi cael ei gyhuddo o ddwyn o siopau ym Mhwllheli.
Mi riportiwyd y digwyddiad cyntaf ar ddydd Sadwrn, 5 Gorffennaf, ar ôl i fwrdd padlo gael ei ddwyn o'r siop Asda ar Stryd y Tywod.
Ar ddydd Llun, 21 Gorffennaf, mi riportiodd y siop ladrad pellach o byllau nofio y gellir eu pwmpio.
Wythnos yn ddiweddarach, mi gafodd nifer o eitemau trydanol eu dwyn o B & M Stores.
Mae Gethin Williams, o Gae Dafis, Pwllheli, wedi’i gyhuddo o dri trosedd o ladrad.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth a bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon ar ddydd Llun 29 Medi.