Rhybuddio myfyrwyr am beryglon cetamin

Friday, 27 February 2026 20:39

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae myfyrwyr yng Nghaergybi wedi cael rhybudd am beryglon cetamin fel rhan o gynllun peilot.

Mi gyfunodd Heddlu Gogledd Cymru, gwasanaethau brys a sefydliadau iechyd er mwyn cynnal digwyddiad 'Byddych yn Glyfar, Peidiwch â Chychwyn' dros dau ddiwrnod yn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â pheryglon y cyffur Dosbarth B.

Mae hyn yn dilyn cynyddol yn y defnydd o cetamin ledled Gogledd Cymru yn y blynyddoedd diwethaf.

Yn gynharach y mis hwn, penderfynodd panel o arbenigwyr Llywodraeth y DU yn erbyn galwadau i ailddosbarthu cetamin fel cyffur Dosbarth A.

Mi gymerodd o gwmpas 250 o disgyblion yn Ysgol Uwchradd Caergybi yn y gweithdai rhyngweithiol a’r sgyrsiau agored ynghylch cetamin a’r canlyniadau posib, mewn amgylchfyd dymunol a diogel.

Dywedodd Prif Arolygydd Jon Aspinall: "Da ni’n gweithio efo partneriaid yn barhaus er mwyn atal y niwed mae cyffuriau’n achosi ym mhob rhan o’n cymunedau ni."

“O ganlyniad camau diweddar, mae dau unigolyn wedi cael eu harestio o dan amheuaeth o fod efo cetamin yn eu meddiant efo’r bwriad o gyflenwi."

“Mae’r digwyddiad yr wythnos hon wedi atgyfnerthu’r pwysigrwydd o wneud penderfyniadau cadarnhaol, cadw’n saff ac edrych ar ôl pobl eraill.”

Mi ddechreuodd y diwrnod cyntaf efo cyflwyniad gan Be Di’r Sgôr, sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl ifanc ynglŷn â chamddefnyddio sylweddau ar Ynys Môn ac yng Ngwynedd.

Mi siaradodd swyddogion heddlu’r ysgolion ynglŷn â chyfreithiau’n ymwneud â chyffuriau, a pha effaith fyddai ar ddyfodol unigolyn pe bai ganddyn nhw gofnod troseddol, gan gynnwys cyfyngu ar gyfleoedd swyddi, ac hyd yn oed llefydd i fynd ar wyliau.

Yna, mi ddysgodd y myfyrwyr ynglŷn ag effeithiau cetamin ar iechyd meddwl a’r effeithiau tymor hir o gamddefnyddio sylweddau. Un elfen ydy’r cysylltiad â phroblemau efo’r bledren, all arwain at lawdriniaeth difrifol a’r defnydd o fagiau stoma am weddill oes.

Dyweddod Sharon Thomas, nyrs stoma gan bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr: "Mi wnes i wir fwynhau mynychu a siarad efo’r bobl ifanc. Mi roedd yn bwysig cael sgyrsiau agored a gonest ynglŷn â pheryglon cetamin a’r canlyniadau go iawn sy’n gallu digwydd o’i gymryd."

“Os ydy rhannu’r wybodaeth hon yn helpu dim ond un unigolyn ifanc i stopio a meddwl cyn cymryd rhywbeth all newid eu bywydau am byth, yna mae’n werth bob eiliad.”

Mi ddarparodd y digwyddiad hefyd gyfeirio eglur i wasanaethau cymorth, opsiynau riportio cyfrinachol, ac ymyrraeth gynnar sydd ar gael i bobl ifanc.

Mi gyflwynwyd mewnbynnau hefyd gan Gwasanaethau Ieuenctid Ynys Môn, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a CAHMS, er mwyn dangos effeithiau eang defnyddio cyffuriau.

Dyweddod Stella Dennis-Bunting, dirpwy brifathro Ysgol Uwchradd Caergybi: "Da ni’n ymrwymo i sicrhau bod ein disgyblion yn cael gwybodaeth, yn ddiogel ac yn cael cymorth."

"Drwy gynnal y digwyddiad ‘Byddwch yn glyfar, peidiwch â chychwyn’, mi gafodd ein disgyblion ni gyfle i ddysgu ynglŷn â gwir beryglon cetamin mewn ffordd agored a hwyliog. Da ni’n ddiolchgar i’n partneriaid ni wnaeth helpu gyflwyno neges mor bwysig a darparu llwybrau eglur i gymorth."

Ychwanegodd Prif Arolygydd Aspinall: "Mae defnyddio cetamin yn gallu niweidio’ch iechyd chi’n ddifrifol, ac mae pobl sy’n ystyried ei gymryd, yn enwedig pobl ifanc a phobl yn eu harddegau, yn gallu’i ddefnyddio heb ddeall y canlyniadau."

"Mi wnawn ni barhau i weithredu ar gudd-wybodaeth yn erbyn y rhai sy’n ymwneud â chyflenwi cetamin, ac mi fyddwn ni’n erlid yn gadarn a rhoi troseddwyr o flaen eu gwell, er mwyn atal pobl ifanc rhag bod yn darged."

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am droseddau sy'n gysylltiedig â chyffuriau ar Ynys Môn, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw. Fel arall, cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Siarad efo rhywun ynglŷn â phroblem gyffuriau ydy’r cam cyntaf er mwyn datrys eich problemau chi. Mi allwch chi ffonio DAN 24/7 ar 0808 808 2234 unrhyw amser, 24 awr y dydd.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Tracy Austin

    6:00am - 7:00am

    Tracy's back on MônFM playing loads of great songs.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'