Strategaeth ailgylchu newydd i'w thrafod

Friday, 6 June 2025 15:22

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Gwynedd

Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi'i gynllunio ar strategaeth ailgylchu am y pum mlynedd nesaf yng Ngwynedd.

Bydd adroddiad yn cael ei ystyried gan gabinet Cyngor Gwynedd ar 10 Mehefin a fydd yn gofyn am yr hawl i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar strategaeth wastraff ac ailgylchu ar gyfer y cyfnod hyd at 2030.

Mae'r strategaeth ddrafft yn gosod gweledigaeth am sut fyddai'r Cyngor yn cydweithio efo trigolion y sir a phartneriaid allweddol eraill i wella cyfraddau ailgylchu, lleihau effaith amgylcheddol, ac uwchraddio gwasanaethau gwastraff lleol yng Ngwynedd.

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, aelod y cabinet dros amgylchedd: "Tra bod yr argyfwng hinsawdd yn her fyd-eang, mae'r atebion yn dechrau'n lleol ac mae cyfle gwirioneddol i ni wneud gwahaniaeth ar y lefel sirol a chenedlaethol yn y maes gwastraff ac ailgylchu."

"Ein nod ydi parhau i dorri'r gwastraff gweddilliol sy'n cael ei greu a'i gasglu yma yng Ngwynedd, a chefnogi unrhyw gyfle i ail-ddefnyddio ac ailgylchu."

"Ers i Gyngor Gwynedd gyflwyno gwasanaethau ailgylchu a gwastraff bwyd, rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol yn y canran o ailgylchu yng Ngwynedd, ond mae'n glir fod rhaid i ni barhau i foderneiddio'n trefniadau er mwyn gweld gwelliannau pellach."

"Fel cymdeithas, mae angen i ni newid ein meddylfryd a gweld gwastraff fel adnodd, drwy drwsio ac ail-ddefnyddio deunyddiau cyn ystyried eu hailgylchu a'u taflu, a hynny er mwyn creu economi gylchol gynaliadwy yma yng Ngwynedd."

"Mae'r strategaeth wastraff ac ailgylchu drafft yn gosod allan y camau yr ydan ni wedi eu cynllunio ar gyfer y pum mlynedd i'n helpu i wella lefelau ailgylchu, a hefyd gosod ein stondin ar gyfer ein huchelgais hir-dymor o allu trin â'n gwastraff ac ailgylchu yma yng Ngwynedd."

"Os bydd y cabinet yn cefnogi'r adroddiad, byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn fuan a byddwn yn awyddus i glywed barn pobl Gwynedd ar ein gweledigaeth ar gyfer y cyfnod hyd at 2030."

Bydd yr adroddiad yn cael ei ystyried dydd Mawrth nesaf.

Os bydd y cabinet yn cefnogi'r bwriad i gynnal cyfnod o ymgynghori cyhoeddus, disgwylir y bydd yr ymgynghoriad yn lansio yn yr wythnosau nesaf a bydd manylion pellach am sut all trigolion Gwynedd a rhanddeiliaid eraill ddweud eu dweud ar yr hyn sy'n cael ei gynnig.

Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael ei ystyried wrth baratoi'r strategaeth derfynol cyn iddi gael ei chyflwyno'n ôl i'r cabinet i'w mabwysiadu'n ffurfiol yn ddiweddarach eleni.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'