Teuluoedd yn symud i gartrefi newydd yn Llanfaethlu

Thursday, 23 October 2025 13:58

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Môn

Mae tenantiaid newydd wedi dechrau symud i fyw i stad dai newydd yn Llanfaethlu.

Cafodd y datblygiad Sef y Bryn, sy'n cynnwys naw o gartrefi ansawdd uchel, ei adeiladu gan cwmni lleol, Ingram, sydd wedi'i leoli yn y pentref.

Mae'r tenantiaid yn deuluoedd lleol o Fôn, a fydd yn elwa o gartrefi sydd wedi cael eu dylunio i fod yn fforddiadwy ac ecogyfeillgar.

Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones, sy'n dal y portffolio tai yng Nghyngor Môn: "Rydw i'n falch o weld bod y teuluoedd yn setlo yn eu cartrefi newydd yn Stad y Bryn."

"Mae'r datblygiad hwn yn enghraifft wych o'r modd y gallwn ddarparu cartrefi modern, sy'n effeithlon o ran ynni i gwrdd ag anghenion lleol."

"Mae darparu tai fforddiadwy o ansawdd yn un o brif amcanion strategol y cyngor, ac mae'n galonogol gweld y weledigaeth hon yn cael ei gwireddu er budd trigolion Llanfaethlu. Hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith caled a'u hymrwymiad i wireddu'r prosiect hwn."

Mae gan y tai ffrâm goed ac maent wedi cael eu hadeiladu yn unol â safon tai Llywodraeth Cymru ar gyfer tai newydd. Mae pob un wedi ei inswleiddio'n drylwyr er mwyn sicrhau tystysgrif perfformiad ynni Gradd A, a ddylai helpu i leihau costau ynni i'r preswylwyr. 

Mae gan y cartrefi Bympiau Gwres o'r Aer a phaneli solar PV, i gefnogi ymdrechion y Cyngor i leihau allyriadau carbon a hyrwyddo byw'n gynaliadwy.

Wrth ddatblygu cartrefi newydd fel hyn, mae'r cyngor sir yn ceisio lleihau tlodi tanwydd, allyriadau CO₂, a defnydd ynni'n gyffredinol a chwrdd â'r galw cynyddol am dai fforddiadwy ar yr ynys.

Mae cynghorwyr ward Talybolion,Kenneth Hughes, Jackie Lewis a Llio Owen, hefyd wedi croesawu cwblhad y prosiect yn Llanfaethlu.

Mae'r stad newydd yn cynnwys eiddo rhent canolog a gafodd eu dyrannu drwy'r gofrestr tai fforddiadwy sy'n cael ei gweinyddu gan Tai Teg, sy'n cefnogi trigolion lleol sydd ddim o reidrwydd yn gymwys i dŷ cymdeithasol ond sydd angen llety fforddiadwy.

Ychwanegodd Ned Michael, pennaeth gwasanethau tai y cyngor: "Rydym yn falch o groesawu tenantiaid newydd i'r cartrefi hyn, sy'n dangos ein hymrwymiad parhaus i ddarparu cartrefi fforddiadwy, cynaliadwy i gymunedau lleol."

"Bydd y cyngor yn parhau i weithio'n agos â Llywodraeth Cymru, cymdeithasau tai a phartneriaid allweddol eraill i helpu i gwrdd â'r galw am dai ledled Ynys Môn ac i sicrhau bod pobl leol yn elwa o ddatblygiadau fel hyn."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Your Weekend Starts Early

    7:00pm - 9:00pm

    Brynski & Kalso are in the mix to kick-start your weekend a little earlier!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'