Teyrnged y côr i Annette Bryn Parri

Monday, 4 August 2025 07:03

By Ystafell Newyddion MônFM

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Talodd gôr deyrgned arbenning i'w arweinydd wrth iddynt gystadlu yn yr Eisteddfod am y tro cyntaf a hynny ond wythnosau ar ol ei marwolaeth.

Bu farw'r pianydd a'r cyfeilydd Annette Bryn Parri yn 62 oed ym mis Mai, yn dilyn cyfnod byr o waeledd.

Roedd hi'n gyfarwyddwr Côr Heddlu Gogledd Cymru, un o 13 côr oedd yn cystadlu yng nghystadleuaeth y Côr Newydd.

Gyda bron i 60 o aelodau – gan gynnwys swyddogion, staff a gwirfoddolwyr ynghyd â chydweithwyr sydd bellach wedi ymddeol, mae'r côr yn cyfarfod yn wythnosol ym mhencadlys yr heddlu ym Mae Colwyn.

I dalu teyrnged i Annette fe gafodd aelodau'r côr fenthyg sgarffiau y gantores a'u gwisgo tra ar y llwyfan.

Dywedodd yr arweinydd, Rhingyll Arwyn Tudur Jones: "Breuddwyd Annette oedd ein gweld yn cystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod, felly rydym yn falch o wireddu."

Ychwanegodd mae Hawys Parri, sef merch-yng-nghyfraith Annette, fydd yn cyfeilio i'r côr.

"Rydym yn ddiolchgar iddi ddod i'n helpu mewn amylchiadau mor anodd," meddai.

Bu Annette Bryn Parri yn cyfeilio i amryw o gôrau a nifer fawr o unigolion gan gynnwys Aled Jones ac fe gafodd ei gwahodd i Balas Kensington i berfformio o flaen Tywysog Cymru a'r ddiweddar Dywysoges Diana gyda'r canwr o Fôn.

Roedd hi'n cyfeilio i'r grwp poblogaidd Hogia'r Wyddfa hefyd ac ers 1993 roedd yn brif gyfeilydd i gorau Ysgol Glanaethwy ym Mangor.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman o Heddlu Gogledd Cymru: "Roedd Annette yn ran annatod o'r tîm ac o'r diwrnod cyntaf rhoddodd ei chalon a'i henaid i ddatblygu a meithrin y côr."

"Roedd ei chynhesrwydd, ei thalent a'i hangerdd yn arbennig a dwi'n gwybod ei bod yn gwerthfawrogi'r rôl yn fawr."

Roedd 13 o gorau yn cystadlu brynhawn Sul mewn categori gyflwynwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd. Nod y gystadleuaeth yw annog a chyflwyno corau newydd, rhai sydd wedi ffurfio'n arbennig, corau cymunedol neu gorau sydd heb gystadlu o'r blaen.

Mae'n gystadleuaeth i unrhyw gyfuniad o leisiau gyflwyno dau ddarn cyferbyniol hunanddewisiad hyd at wyth munud.

Ymhlith y corau eraill fu'n cystadlu ddoe oedd Côr Plas Coch a Côr Ni o ardal Wrecsam; Côr NantClwyd o Ddinbych, Côr y Cofis o Gaernarfon a Chôr Yogi Clwb Rygbi y Bala.

Dyfarnodd y beirniaid y wobr gyntaf i Aelwyd Llangwm gyda Rhocesi yn ail a Chôr Syr Ifan yn drydydd.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM Sport with Ryan McKean

    2:00pm - 5:00pm

    Ryan McKean keeps you up to date with all the latest football scores across North Wales

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'