Teyrngedau i ddioddefwyr damwain Biwmares

Tuesday, 12 August 2025 01:11

By Ystafell Newyddion MônFM

Llun teulu (Heddlu Gogledd Cymru)

Mae teuluoedd tri o bobl a fu farw mewn gwrthdrawiad ym Miwmares wedi talu teyrnged yn dilyn cwest.

Mi ddigwyddodd y cwest i farwolaethau Humphrey Pickering a Stephen a Katherine Burch yng Nghaernarfon wythnos diwethaf.

Mi roedd yn ymwneud â char Audi A8 llwyd Mr Pickering, wnaeth wrthdaro efo Mr a Mrs Burch wrth iddyn nhw gerdded ar hyd Stryd Alma ar 28 Awst 2024.

Mi ddaeth Uwch Grwner Gogledd-orllewin Cymru, Kate Robertson, i’r casgliad bod Mr Pickering wedi gwasgu ei droed ar sbardun y car mewn camgymeriad, cyn gwrthdaro efo’r pâr.

Roedd y Parchedig Stephen a Katherine Burch ill dau yn 65 oed ac yn byw yn Alcester, Swydd Warwick.

Yn dilyn y gwrandawiad, dywedodd y teulu: "Cawsant eu taro a'u lladd mewn gwrthdrawiad gan gerbyd awtomatig pŵer uchel, wedi'i yrru ar gyflymder trwy stryd 20mya."

"Mae'n codi cwestiynau poenus ond pwysig am ddiogelwch cerbydau pwerus ac awtomatig sy'n cael eu gyrru gan yrwyr oedrannus. Mae angen mesurau diogelu cryfach i atal trasiedïau o'r fath yn y dyfodol."

Mewn datganiad ddydd Llun, ychwanegodd y teulu: "Mae amgylchiadau marwolaeth ein rhieni yn drasig ac yn boenus iawn i ni. Er ein bod yn ymddiried eu bod nhw nawr gyda Duw, mae'r golled yn anodd i'w hamgyffred."

"Cyn y cwest, ymwelais â Biwmares gyda fy ngŵr, ein mab, a fy ffrind agosaf. Cawsom ein hatgoffa eto o harddwch y dref roedd ein rhieni yn ei charu, lle a fydd bob amser yn agos at ein calonnau."

"Mae ein galar yn anferthol. Ond mae eleni hefyd wedi cael ei nodi gan obaith a ffydd. Roedd ein rhieni yn byw gyda ffydd ddigamsyniol yn Nuw ac ym marwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist. Mae gwybod hyn yn ein cynnal ac yn dod â chysur i ni yng nghanol ein galar."

"Rydym yn ddiolchgar iawn i'r gwasanaethau brys a phawb a ddangosodd ofal a dewrder yn ystod y digwyddiad."

"Rydym hefyd yn cydnabod y trawma a brofwyd gan y rhai a fu'n dyst i'r ddamwain ac rydym yn gwerthfawrogi'r negeseuon niferus o gydymdeimlad a chefnogaeth rydym wedi eu derbyn."

Mi roedd Humphrey Pickering yn 81 ac yn byw ym Mae Colwyn.

Mi ddisgrifiodd ei deulu ef fel “gŵr, tad, taid a hen daid, brawd ac ewythr annwyl” ac mi ddywedon nhw y bydden nhw “i gyd yn ei fethu’n fawr.”

Dywedodd y teulu: "Mi roedd Humphrey Pickering yn ddysgwr gydol oes, oedd wrth ei fodd yn teithio, dysgu ieithoedd newydd a chael profiad o ddiwylliannau newydd."

"Roedd ei yrfa’n troi o gwmpas llyfrgelloedd, dysgu, a dod â gwybodaeth i gymunedau ledled Ewrop, a chyn belled i ffwrdd â De’r Môr Tawel. Mi roedd yn gydweithiwr, pennaeth a ffrind gwerthfawr, ac yn fentor i lawer."

"Wedi iddo ymddeol, mi wnaeth barhau i wasanaethu ei gymuned drwy wirfoddoli, ac mi roedd yn aelod o’r Rotari ac yn gefeillio trefi. Mi roedd hefyd yn arddwr brwd, yn gofalu am ei goed, blodau a llysiau drwy gydol y flwyddyn."

"Mi hoffai ein teulu ddiolch i’r gwasanaethau brys ac aelodau’r cyhoedd wnaeth helpu wrth lleoliad y gwrthdrawiad, ac i’r rhai wnaeth ddarparu gofal a help i’n mam, yn enwedig y staff yng Ngwesty’r Bulkley, wnaeth ei chadw’n ddiogel tan oeddem ni’n medru dod i Fiwmares er mwyn bod efo hi i’w chysuro hi."

"Da ni hefyd eisiau diolch i’r rhai sydd wedi gweithio’n ddi-baid ers hynny, er mwyn datgelu digwyddiadau’r diwrnod a rhoi eglurhad o’r hyn ddigwyddodd y diwrnod hwnnw."

"Mi wnaiff yr atebion hyn ein helpu ni i symud ymlaen yn ein galar, ac maen nhw’n gam bach tuag at ein teulu’n derbyn y ddamwain drychinebus hon a’r golled gofidus i’n teulu ni ac i deulu’r Parch. Stephen a Katherine Burch."

"Da ni’n ymestyn ein cydymdeimlad dwys i’r teulu Burch, ‘da ni’n dorcalonnus ynghylch eu colled, colled fydd yn pwyso’n drwm arnom ni am byth. Da ni’n gobeithio fydd canlyniad y cwest yn eu helpu nhw mewn rhyw ffordd hefyd."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'