Trawsnewid hen safle tirlenwi yn hwb bioamrywiaeth

Thursday, 12 June 2025 23:14

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Môn

Mae hen safle tirlenwi ym Mhorthaethwy wedi cael ei drawsnewid yn hafan i fywyd gwyllt a hwb addysgol llewyrchus.

Mae Penhesgyn sydd hefyd yn gartref i un o ganolfannau ailgylchu gwastraff Cyngor Ynys Môn.

Ond rwan, mae 50 acer o ddolydd blodau gwyllt ar y safle, ynghyd â 13 pwll dŵr newydd a nodweddion gwlypdir, clytwaith o gynefinoedd, coedwig newydd, ac ardaloedd mawnog sy'n gyfoethog o ran carbon.

Yn ôl y cyngor, mae'r hwb newydd yn cyfrannu at wrthsefyll newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth.

Yn ddiweddar, cafodd disgyblion o Ysgol y Borth ac Ysgol David Hughes gyfle i ymweld â safle Penhesgyn i ddysgu yn yr awyr agored a chael eu trochi ym mynd natur.

Roedd arbenigwyr wrth law, sef Jim Langley gan Nature's Work, Tony Roberts gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac Poppy Backshall ac Angharad Powell gan Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru.

Cafodd y disgyblion gyfle unigryw i grwydro'r cynefinoedd newydd a deall mwy am fioamrywiaeth a chadwraeth.

Dywedodd Tony Roberts, uwch swyddog rheoleiddio diwydiant a gwastraff CNC: "Roedd yn braf cael croesawu disgyblion ac athrawon i'r prosiect Tirlenwi Gwyllt, er mwyn iddynt gael dysgu am adferiad natur a datrysiadau carbon niwtral sy'n defnyddio dull tirwedd cyfan ar safleoedd tirlenwi a thir cysylltiedig."

"Mae hwn yn ddatrysiad unigryw sy'n helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng natur a hinsawdd ac a fydd yn helpu i ddiogelu a gwella amgylchedd naturiol Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Cyflwynwyd y prosiect Tirlweni Gwyllt ar bedwar safle yn Ynys Môn a Gwynedd yn 2020.

Mae'r prosiect ehangach hefyd yn cynnwys 70 acer o dir amaethyddol wedi'i wella safon is o amgylch y safle ac felly mae cyfanswm o 120 acer yn ffurfio clytwaith o gynefinoedd bioamrywiol heb ffensys.

Defnyddiwyd system 'llennyrch a rhodfeydd' i blannu'r coed, er mwyn creu cymysgedd deinamig o fannau agored ac ynysoedd prysgwydd - sy'n hanfodol ar gyfer adferiad natur a chreu cynefinoedd ymylol.

Mae'r safle hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o liniaru effaith newid hinsawdd. Mae'r ardaloedd mawnog sy'n gyfoethog o ran carbon yn lleihau'r carbon sy'n cael ei ryddhau ac yn helpu i gwrdd â thargedau newid hinsawdd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts, deilydd portffolio newid hinsawdd y cyngor: "Mae'r newid ym Mhenhesgyn yn enghraifft anhygoel o'r modd y gallwn weithredu'n lleol i gefnogi ein nodau newid hinsawdd strategol."

"Mae adfer natur, gwella bioamrywiaeth a gwarchod mawndiroedd yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon a gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd."

"Bydd y prosiect hwn hefyd yn ein helpu ni i ymateb i'r argyfwng newid hinsawdd a dod yn sefydliad sero net, fel y nodir yng nghynllun y cyngor 2023-28. Rydw i'n falch o weld Ynys Môn yn arwain y ffordd yn y maes hynod bwysig hwn."

Eglurodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, deilydd portffolio addysg: "Mae'n hanfodol bwysig rhoi cyfle i blant ddeall pwysigrwydd stiwardiaeth amgylcheddol."

"Yn ystod yr ymweliad addysgol i Benhesgyn cafodd y disgyblion gyfle i ddysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth a gweld effaith gadarnhaol prosiectau adfer fel hyn."

"Gyda ffocws cadarn ar ddysgu, mae'r fenter hon hefyd yn cyfrannu at amcan strategol y cyngor i addysgu drwy sicrhau darpariaeth effeithiol ar gyfer heddiw a chenedlaethau'r dyfodol, fel y nodir yng nghynllun y cyngor 2023-28."

Mae mwy o wybodaeth am y prosiect ar gael ar y gwefan Tirlenwi Gwyllt.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Suliau'r Soffa

    2:00pm - 4:00pm

    Ymlaciwch ar brynhawn Sul yng nghwmni Llion ar MônFM.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'