Mae sefydliad UNESCO yn dathlu 80 mlynedd o hyrwyddo treftadaeth naturiol a diwylliannol.
Mae gan Wynedd ddau safle treftadaeth y byd - Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, a ddynodwyd yn 2021, a Chestyll a Muriau Tref y Brenin Edward, a ddynodwyd yn 1986.
Yn ogystal, mae GeoMôn wedi'i gydnabod fel geoparciau byd-eang ac mae Biosffer Dyfi wedi’i gydnabod fel gwarchodfa biosffer gan UNESCO (Mudiad Addysgol, Gwyddonol a Ddiwylliannol y Cenhedloedd Unedig).
Dros y blynyddoedd mae dynodiadau UNESCO wedi denu buddsoddiad sylweddol i Wynedd, ac ers dynodi tirwedd llechi yn safle treftadaeth y Byd, mae cyfanswm o dros £38 miliwn wedi ei sicrhau i’r sir drwy ffynonellau megis Llywodraeth y DU, Cadw, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a phartneriaid eraill.
Mae rhai o’r prosiectau yn cynnwys ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, gwaith cadwraeth sylweddol ar Ysbyty Chwarel Penhryn ym Methesda a gwelliannau canol trefi megis celf cyhoeddus, dodrefn stryd a chynlluniau dehongli.
Dyweddod y Cynghroydd Medwyn Hughes, aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros economi a chymuned: "Rydym yn hynod o falch o’n dynodiadau Treftadaeth y Byd UNESCO yma yng Ngwynedd."
"Mae economi ymweld er budd a lles pobl, amgylchedd, iaith a diwylliant Gwynedd ac Eryri yn greiddiol i’n cynllun economi ymweld gynaliadwy 2035."
"Mae'r economi ymweld yn holl bwysig i’r ardal arbennig hon, ond rydym hefyd am sicrhau bod yr ardal a’i rhinweddau arbennig yn cael eu gwarchod a’u diogelu - fel bod yr hyn sydd mor unigryw am yr ardal yn cael eu diogelu ar gyfer heddiw a chenedlaethau’r dyfodol."
"Mae statws UNESCO yn arf ychwanegol i sicrhau ein bod gyda’n gilydd a’n partneriaid yn rheoli ein safleoedd mewn ffordd gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau i ddod."
"Mae’r dynodiad wedi bod yn sbardun i adfywio economaidd a chymdeithasol yn ein cymunedau, gan roi hwb iddynt ymfalchïo yn eu treftadaeth, tra hefyd yn gwneud gwahaniaeth gweledol yng nghalon y cymunedau llechi."
Ers ei ffurfio yn Llundain yn 1945, mae tua 60 o safleoedd ledled Prydain wedi cael eu cydnabod gan UNESCO, gan gynnwys cymysgedd o safleoedd treftadaeth y byd, gwarchodfeydd biosfferig a geoparciau byd-eang.


Gwobr y Brenin i Ganolfan Bodedern
Trefor Lloyd Hughes wedi marw yn 77 oed
Lleoliadau gwaith ar gyfer adeiladwyr ifanc
Ymateb i gyhoeddiad Wylfa SMR
Foden: cyngor 'yn amlinellau’r camau nesaf'