
Bydd Môn Mam Cymru yn croesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd estynedig wrth iddi ddychwelyd i'r Ynys flwyddyn nesaf.
Daeth cyhoeddiad ar faes Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a'r Fro, fod Urdd Gobaith Cymru yn bwriadu cynyddu'r ŵyl i saith diwrnod yn 2026.
Daw hyn mewn ymateb i'r cynnydd yn y niferoedd sy'n cofrestru i gystadlu ynghyd â cheisiadau am fwy o gystadlaethau.
Bellach yn un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop, mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn croesawu hyd at 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Cynhaliwyd y digwyddiad ddiwethaf yn Ynys Môn yn ôl yn 2004.
Croesawyd y cyhoeddiad ar faes yr ŵyl gan arweinydd Cyngor Ynys Môn, Gary Pritchard: "Bydd cynnal yr ŵyl unigryw yma - fydd yn para am saith diwrnod pan ddaw i safle Mona - hwb anferthol i'r Iaith Gymraeg, ein pobl ifanc a'r economi."
"Rydym ni fel cyngor sir a'r Fam Ynys yn wir edrych ymlaen at groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ymhen blwyddyn. Ni fyddai gwell lle nag Ynys Môn i lwyfannu'r digwyddiad Cymreig yma ar gyfer pobl ifanc Cymru a hynny, wedi'r cyhoeddiad heddiw, y cawn wythnos gyfan o gystadlu."
"Hoffwn ddiolch i bwyllgor gwaith yr Urdd Ynys Môn a'r holl wirfoddolwyr am weithio mor galed i sicrhau y bydd Môn unwaith eto yn gartref teilwng i'r ŵyl arbennig yma yn 2026."
"Edrychaf ymlaen weld plant, pobl ifanc a theuluoedd o hyd a lled y wlad yn ymweld â Môn Mam Cymru."
Bydd y cystadlu yn cychwyn ar ddydd Sadwrn cyn Sulgwyn ac yn rhedeg tan ddydd Gwener yr wythnos hynny gyda Gŵyl Triban yn symud i'r penwythnos cyntaf gyda'r bartneriaeth ddarlledu yn parhau gyda S4C.
Ychwanegodd prif weithredwr Cyngor Môn, Dylan J Williams, "Mae yna frwdfrydedd mawr yn lleol ac mae pobl yn awyddus iawn i groesawu'r ŵyl ieuenctid unigryw hon i'r ynys."
"Mae hwn yn gyfle rhagorol i ni ddangos Ynys Môn ar ei gorau. Byddwn rŵan yn parhau i gydweithio â'r Urdd a'r pwyllgor lleol gyda'r nod o gynnal yr Eisteddfod a chroesawu pobl Cymru yma yn 2026."