Urdd 2026: saith diwrnod ym Mon?

Friday, 30 May 2025 12:06

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae'r Urdd wedi cyhoeddi cynlluniau i ymestyn yr eisteddfod genedlaethol i ŵyl saith diwrnod, yn dechrau ar Ynys Môn y flwyddyn nesaf.

Roedd yr ŵyl ieuenctid fwyaf yn Ewrop i fod i gael ei chynnal ar faes sioe Mona rhwng dydd Llun 25 a dydd Sadwrn 30 Mai.

Ond mewn ymateb i’r cynnydd yn y niferoedd sy’n cofrestru i gystadlu ynghyd â cheisiadau am fwy o gystadlaethau, mae’r Urdd wedi cyhoeddi bwriad i ehangu’r Eisteddfod i wythnos lawn, gan ddechrau ar dydd Sadwrn 23 Mai ac yn gorffen ddydd Gwener 29 Mai - gyda Gŵyl Triban yn symud i'r penwythnos agoriadol.

Meddai Llio Maddocks, cyfarwyddwr celfyddydau'r Urdd: "Mae Eisteddfod yr Urdd yn ŵyl sy’n esblygu ac yn gwrando ar ein haelodau."

"Mae mwy o gofrestriadau i gystadlu nag erioed o’r blaen a galw am gystadlaethau llwyfan ychwanegol, ac rydym mor falch o weld yr effaith gadarnhaol mae’r ŵyl yn ei gael drwy gynyddu’r cyfleoedd i ymwneud â’r Gymraeg tu allan i’r ystafell ddosbarth."

"Felly i sicrhau ein bod ni’n parhau i fod yn fudiad cynhwysol ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru, byddwn yn ehangu’r Eisteddfod i ŵyl saith diwrnod."

Bydd yr Urdd yn ymgynghori a chydweithio gydag aelodau, aelwydydd, canghennau a phwyllgorau lleol i sicrhau bod y trefniadau’n cynnig mwy o gyfleoedd nag erioed i gymryd rhan, yn ogystal â thrafod gyda phartneriaid a stondinwyr y maes.

Bydd y trefniadau terfynol yn cael eu cadarnhau adeg cyhoeddi rhestr testunau ar gyfer 2026 yn yr hydref - ond mae'r cynlluniau estyniad wedi denu cefnogaeth gan y pwyllgor gwaith lleol ym Môn.

Meddai Manon Wyn Williams, cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn: "Mae’r cynnydd blynyddol o ran y nifer sy’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn galonogol iawn ac yn golygu bod mwy a mwy o blant a phobl ifanc yn cael cyfleoedd amhrisiadwy drwy’r mudiad."

“Mae’r diolch am hynny i waith diflino hyfforddwyr, athrawon, gwirfoddolwyr a staff gweithgar yr Urdd ledled Cymru. O ganlyniad, mae ymestyn hyd yr Eisteddfod i saith niwrnod yn ddatblygiad hanfodol a chyffrous."

"Mae’n fraint ein bod ni ym Môn yn cael croesawu’r Eisteddfod arbrofol hon ac mae’n gyfle i edrych o’r newydd ar strwythur yr ŵyl gan gydweithio â phlant a phobl ifanc Cymru wrth wneud hynny. Mae yna hen edrych ymlaen at groesawu pawb i’r Fam Ynys ymhen blwyddyn!”

Ychwanegodd Arwel Gruffydd, cadeirydd bwrdd celfyddydau'r Urdd: "Mae cyhoeddiad heddiw yn brawf o lwyddiant ac apêl Eisteddfod yr Urdd fel gŵyl ieuenctid deithiol fwyaf Ewrop."

"Ein nod yw parhau i gynnig cyfleoedd amhrisiadwy i aelodau’r Urdd, ac adlewyrchu Cymru a’i hamrywiaeth drwy ymestyn allan i gynulleidfaoedd newydd.”

Mae’r mudiad yn gwahodd adborth ar y datblygiad drwy lenwi ffurflen ar eu gwefan ac yn cwrdd ag aelodau a rhanddeiliaid dros y misoedd nesaf.

Bydd y bartneriaeth ddarlledu yn parhau gydag S4C a BBC Radio Cymru.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'