Mae Urdd wedi lansio apêl gyda'r nod o roi gwyliau i gannoedd o blant a phobl ifanc na fyddai fel arall byth yn cael y cyfle.
Lansiwyd 'Cronfa Cyfle i Bawb' gan Urdd Gobaith Cymru yn 2018.
Erbyn heddiw, trwy nawdd y gronfa, mae dros 1000 o blant a phobl ifanc o deuluoedd incwm isel, yn blant maeth, neu'n ofalwyr ifanc i fwynhau gwyliau yn un o wersylloedd yr Urdd.
Gyda bron i un o bob tri plentyn (31%) yng Nghymru bellach yn byw mewn tlodi, mae gwyliau yn rhywbeth sydd tu hwnt i gyrraedd llawer iawn o deuluoedd.
Meddai Siân Lewis, prif weithredwr yr Urdd: "Mae Cronfa Cyfle i Bawb mor bwysig i ni. Trwy ein cenhadaeth 'Urdd i Bawb', rydym yn benderfynol o sicrhau nad oes plentyn yn cael ei adael ar ôl."
"Ers sefydlu'r gronfa, a diolch i gyfraniadau hael, rydym wedi croesawu dros 1,000 o blant a phobl ifanc sy'n byw mewn amgylchiadau heriol ar wyliau i un o'n gwersylloedd dros yr haf. Rydym ni'n gweld gyda'n llygaid ein hunain pa mor arbennig ydy'r profiad iddynt."
"Mae sawl un yn dweud wrth fynd adre fod gwyliau gyda'r Urdd yn un o brofiadau gorau eu bywyd a'u bod nhw eisiau aros yma trwy'r haf."
"Mae'r plant a'r bobl ifanc yn blodeuo mewn ychydig ddyddiau; yn magu hyder, gwneud ffrindiau newydd, datblygu eu sgiliau Cymraeg ac yn mwynhau eu hunain heb orfod poeni am unrhyw beth."

Yn gynharach eleni, bu'r Urdd yn gweithio gydag elusen Achub y Plant ('Save the Children') er mwyn paratoi ei neges heddwch ac ewyllys dda, gan dynnu sylw at y ffaith bod 1 ym mhob 3 o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru, a chyfanswm o 4.5 miliwn o blant ar draws y DU.
Ychwanegodd Melanie Simmonds, pennaeth Achub y Plant yng Nghymru: "Mae rhieni eisiau'r gorau i'w plant, ond mae heriau ariannol yn golygu bod llawer yn wynebu penderfyniadau anodd."
"Mae gormod o blant yn colli'r cyfle i wneud pethau ddylai fod yn rhan annatod o blentyndod: mynd ar drip ysgol, mwynhau chwaraeon, cerddoriaeth a chael cyfle i chwarae a threulio amser gyda ffrindiau. Tra bod rhai yn gallu ymuno ac eraill ddim, daw anghydraddoldeb ac arwahanu a all aros am byth."
"Mae Cronfa Cyfle i Bawb yr Urdd yn rhoi cyfle arbennig i blant, beth bynnag eu sefyllfa neu eu cefndir, i wneud atgofion oes a chymryd rhan mewn gweithgareddau fydd o fudd i'w llesiant, eu hyder a'u datblygiad."

Byddai cyfraniad o £230 at y Gronfa yn mynd at gost gwyliau i un plentyn neu berson ifanc yng Ngwersyll Glan-llyn, Llangrannog, Pentre Ifan neu Gaerdydd.
Mae hyn yn cynnwys gwyliau rhwng 3 a 5 diwrnod (yn ddibynnol ar y lleoliad) llawn gweithgareddau, trafnidiaeth i ac o'r gwersyll, tri phryd bwyd y dydd, a chefnogaeth a gofal gan staff profiadol y mudiad.
Bydd modd i deuluoedd, rhieni maeth, athrawon a gofalwyr wneud cais am wyliau ar ran plentyn neu berson ifanc yn gwanwyn 2026.
Croesawir cyfraniadau tuag at y Gronfa gan unigolion, busnesau, sefydliadau, elusennau a chynghorau tref a chymuned o bob cwr o Gymru.
"Wrth i'r Nadolig agosáu a phawb ohonom yn cael ein hudo i wario ar bob math o drugareddau, mae cyfle yma i roi un anrheg arbennig iawn eleni", ychwanega Siân Lewis.
"Mae'n swnio'n honiad mawr, ond o weld gyda'n llygaid ein hunain gallwn ddweud yn hyderus bod dod ar wyliau i un o wersylloedd yr Urdd yn gallu newid plentyn sy'n byw mwn tlodi.''
Gall unrhyw un gyfrannu trwy'r wefan Urdd Gobaith Cymru neu wrth gysylltu gyda'r Urdd ar 01239 652 140 neu cronfa@urdd.org


Dyn o Fae Cemaes yn cyfaddef delio cyffuriau
Carcharu dyn am ymddygiad rheolaethol
Ymestyn gorchymyn diogelu ym Mangor
Mwy o arian i ailwampio Ysgol Tryfan
Carcharu dyn o Lanystumdwy am stelcio