
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi rhyddhau 'Ymlaen' - anthem newydd sbon ar gyfer Ewros y Merched 2025.
Mae'r gân newydd, yn nodi ymddangosiad cyntaf Cymru mewn twrnamaint pêl-droed menywod mawr, wedi'i chyfansoddi'n arbennig gan Caryl Parry Jones, ac yn cynnwys y band poblogaidd Eden, a'r cantorion Aleighcia Scott a Rose Datta.
Mi fydd y anthem yn cael ei pherfformio yn ystod jambori arbennig yr Urdd a gynheilr dros Zoom yr wythnos nesaf, cyn gêm gyntaf Cymru yn erbyn yr Iseldiroedd ar 5 Gorffennaf.
Digwyddiad cenedlaethol mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, S4C a Boom Cymru yw'r Jambori, er mwyn rhoi cyfle i ddisgyblion holl ysgolion cynradd Cymru i ddangos eu cefnogaeth i dîm cenedlaethol y merched, ac ymuno yn nathliadau'r bencampwriaeth.
Mae'r anthem a'r Jambori yn brosiectau wedi'u hariannu gan Gronfa Cymorth Partner Euro 2025 Llywodraeth Cymru.
Bydd fideo gerddoriaeth 'Ymlaen' yn cael ei rhyddhau brynhawn Llun ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol yr Urdd.