Wylfa SMR: gweinidogion yn targedu'r buddion mwyaf

Thursday, 26 February 2026 22:59

By Ystafell Newyddion MônFM

Geograph (Jeff Buck)

Mae Llywodraeth Cymru yn addo manteisio a’r bob cyfle sy’n deillio o'r adweithydd niwclear bach newydd yn Wylfa.

Bydd safle'r hen orsaf bŵer niwclear yn gartref i'r adweithydd niwclear bach cyntaf (SMR) yn y DU, gan gefnogi 3,000 o swyddi yn lleol.

Mewn cynhadledd diwydiant yng Nghaerdydd ddydd Iau, cyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi gynlluniau i greu safle gweithgynhyrchu modiwlaidd yn Sir y Fflint.

Dywedodd Rebecca Evans: "Mae Llywodraeth Cymru a minnau wedi cefnogi niwclear newydd yn Wylfa ers blynyddoedd lawer – rydym yn ei hystyried yn brosiect seilwaith carbon isel o bwys ac yn gyfle diwydiannol hirdymor."

"Rydym am i Gymru elwa ar yr holl fanteision y gall niwclear modern eu cynnig, ac rydym yn bwriadu i Gymru nid yn unig gynnal cynhyrchu niwclear, ond hefyd helpu i’w adeiladu, ei gynnal a’i gyflenwi am ddegawdau i ddod."

Bydd y prosiect seilwaith strategol yn darparu hyd at 1.5GW o ynni carbon isel i’r grid, gan gefnogi nodau sero net y DU a gwella diogelwch ynni.

Bydd y datblygiad yn creu manteision economaidd sylweddol i Gymru hefyd, gan gynnwys creu hyd at 3,000 o swyddi yn ystod cyfnod prysuraf y gwaith adeiladu a chyfleoedd gyrfa hirdymor.

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Economi: "Mae Deeside yn cael ei chydnabod fel clwstwr gweithgynhyrchu uwch gyda diwydiant trwm sefydledig, cysylltedd logisteg cadarn, gweithlu medrus a seilwaith ategol, sydd wedi’i gryfhau ymhellach gan ei ddynodiad o fewn parth buddsoddi gwerth £160 miliwn."

"Ni fyddai ffatri SMR yn Nheeside yn cefnogi un safle yn unig – byddai’n angori rhaglen adeiladu ailadroddadwy a chadwyn gyflenwi hirdymor am ddegawdau lawer i ddod."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    7:00am - 8:00am

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'