Y Bala yn dathlu agoriad cae astro newydd

Thursday, 18 September 2025 22:48

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Gwynedd

Mae cae astro cymunedol newydd wedi'i agor mewn ysgol yn Y Bala, yn dilyn gwaith adnewyddu sylweddol.

Cynhaliodd aelodau ieuengaf Clwb Hoci Y Bala eu sesiwn hyfforddi gyntaf ar yr arwyneb newydd i nodi'r agoriad swyddogol ar safle Ysgol Godre'r Berwyn.

Ar ôl blynyddoedd o ddefnydd gan yr ysgol, y gymuned a chlybiau chwaraeon, roedd y cae gwreiddiol wedi cyrraedd diwedd ei oes.

Ym mis Ebrill, cwblhawyd uwchraddiad gwerth £250,000, gan ddarparu arwyneb modern sy'n addas i amrywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon, llifoleuadau LED newydd, ac offer pwrpasol fel goliau ac offer cynnal a chadw.

Meddai Lynda Williams, cadeirydd Clwb Hoci Y Bala: "Mae cael agor y cae astro newydd yn swyddogol yn ddiwrnod hynod o falch i ni fel clwb, mae'r buddsoddiad yma'n golygu y bydd cyfleoedd i chwarae hoci yn medru parhau yn ardal y Bala am flynyddoedd i ddod, ac mae gweld cynifer o chwaraewyr dan 10 arno yn y sesiwn swyddogol cyntaf yn rhoi gobaith i ni fod dyfodol llewyrchus i'r clwb."

Cafodd y prosiect ei wneud yn bosibl trwy bartneriaeth rhwng Clwb Hoci Y Bala, Ysgol Godre'r Berwyn, Cyngor Gwynedd a Hoci Cymru gyda chyfraniadau hael gan Chwaraeon Cymru drwy ei Grŵp Cydweithredol Chwaraeon ar Gaeau, a wnaed yn bosibl gyda chyllid Llywodraeth Cymru; Cronfa Cymunedau Eryri (Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri); Cronfa Cefnogi Adfywio Cymunedau (Cyngor Gwynedd) a Nuclear Restoration Services.

Yn ogystal, cyfrannodd clybiau chwaraeon lleol, cynghorau tref a chymuned, busnesau ac unigolion i'r prosiect, gyda hyd yn oed aelodau ieuengaf y clwb hoci yn codi arian trwy werthu breichledau wedi'u gwneud â llaw.

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, sy'n cynrychioli ardal Y Bala: "Mae'r cae astro newydd sbon yma'n dangos gwir fuddion gweithio mewn partneriaeth er lles ein cymuned."

"Dylai pawb a gyfrannodd deimlo'n wirioneddol falch o'u gwaith caled a'u hymrwymiad i wireddu'r cynllun uchelgeisiol yma."

Ychwanegodd prif weithredwr Hoci Cymru, Paul Wapham: "Mae'r cydweithrediad hwn, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ac ymdrechion ar y cyd gan Gyngor Gwynedd, Hoci Cymru a Chwaraeon Cymru, yn gam arwyddocaol tuag at ein gweledigaeth i 'danio angerdd dros hoci' ledled Cymru, gan greu mannau cynhwysol sy'n caniatáu i 'bawb ennyn diddordeb, cystadlu a pherfformio."

Bwriedir creu gofod storio newydd a gosod cysgodfeydd timau newydd dros y misoedd nesaf er mwyn cwblhau'r cynllun.

Dywedodd Owen Hathway, cyfarwyddwr cynorthwyol yn Chwaraeon Cymru: "Gan ddefnyddio cyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, rydym yn gweithio ar y cyd â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Hoci Cymru i wneud yn siŵr ein bod yn buddsoddi yn y mathau cywir o gaeau artiffisial yn y rhannau cywir o Gymru i ddiwallu'r galw."

"Yn sicr, roedd y prosiect yma'n un sy'n werth ei gefnogi gan y bydd yn ased gwych i'r gymuned leol."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Gwyn Owen

    10:00am - Noon

    Join Gwyn for two hours of music to finish the morning

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'