Mae gwleidyddion lleol a chenedlaethol wedi ymateb i cadarnhad orsaf bŵer adweithydd modiwlar bach newydd yn Wylfa - y cyntaf o'i fath yn y DU.
Bydd y prosiect seilwaith strategol hwn yn darparu hyd at 1.5GW o ynni carbon isel i’r grid, gan gefnogi nodau sero net y DU a gwella diogelwch ynni.
Bydd y datblygiad yn creu manteision economaidd sylweddol i Gymru hefyd, gan gynnwys creu hyd at 3,000 o swyddi yn ystod cyfnod prysuraf y gwaith adeiladu a chyfleoedd gyrfa hirdymor.
Mae'r cyhoeddiad fod Llywodraeth y DU wedi dewis yr safle ar gyfer lletya ei orsaf SMR wedi ei groesawu gan Cyngor Ynys Môn.
Dyweddod arweinydd y cyngor, Gary Pritchard: "Mae hwn yn gam pwysig ymlaen ar gyfer y gwaith o adeiladu niwclear newydd ar Ynys Môn. Os, fel yr ydym yn gobeithio, y bydd y cynlluniau hyn yn cael eu gwireddu - bydd yn darparu sicrwydd economaidd a ffyniant am ddegawdau i ddod."
"Er siomedigaethau'r gorffennol, rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i letya niwclear newydd ar yr amod ei fod yn darparu buddion trawsnewidiol ar gyfer yr hirdymor - o ran swyddi lleol, cyfleoedd cadwyn gyflenwi a ffyniant ar gyfer ein cymunedau a'n trigolion."
"Wrth gwrs, mae parchu cymunedau'r ynys, diogelu'r iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig ynghyd ag ymrwymiad i ymgysylltu cyhoeddus ystyrlon hefyd yn parhau i fod yn hanfodol."
"Rwy'n croesawu cyhoeddiad heddiw gan gydnabod bod y gwaith caled o sicrhau'r fargen orau ar gyfer ein hynys a'i thrigolion yn cychwyn rwan."
Mae gan Ynys Môn draddodiad o greu ynni wrth i orsaf bŵer niwclear Wylfa, ger Cemaes, ddarparu cyflogaeth sefydlog, o safon yn ystod y cyfnod adeiladu yn y 1960au ac ar ôl iddi ddod yn weithredol ym 1971.
Yn ôl y cyngor sir, Wylfa yw'r safle gorau ar gyfer datblygiad niwclear newydd yn Ewrop.
Dyweddod prif weithredwr y cyngor, Dylan J Williams: "Mae'r cyhoeddiad yma'n gosod y sylfaen ar gyfer creu gwell dyfodol i'n pobl ifanc."
"Byddwn yn edrych i ddefnyddio'n profiad blaenorol o weithio ar brosiect niwclear (gyda chwmni Horizon) a'n dealltwriaeth o'r Ynys ac anghenion ein cymunedau er mwyn dylanwadu ar y prosiect."
"Byddwn hefyd yn parhau i gydweithio er mwyn sicrhau bod y prosiect Wylfa hwn yn cael ei ddatblygu a'i ddarparu mewn ffordd sy'n gweithio i Ynys Môn."
"Mae potensial gan ddatblygiad niwclear newydd yn Wylfa i drawsnewid economi Ynys Môn, yn enwedig gogledd yr ynys, ac elwa gogledd Cymru. Byddai'n creu swyddi o ansawdd a chyfleoedd cadwyn cyflenwi sylweddol."
"Fodd bynnag, rydym hefyd yn ymwybodol o'r effeithiau posibl ar y cymunedau a'r trigolion sy'n byw'n agos i safle'r Wylfa."
"Mae'r cyngor sir wedi ymrwymo'n llawn i sicrhau bod y prosiect yn creu'r buddion gorau yn lleol wrth leihau a lliniaru effeithiau negyddol. Rhaid ystyried llais, anghenion a phryderon trigolion gogledd yr Ynys wrth ddatblygu prosiect newydd y Wylfa ar gyfer y dyfodol."
Mae Plaid Cymru hefyd wedi croesawu’r cyhoeddiad ac wedi galw am ymrwymiadau cadarn i sicrhau bod cymunedau Ynys Môn yn mwynhau manteision hirdymor y buddsoddiad.
Dywedodd Llinos Medi AS: "Mae'r cadarnhad bod Wylfa wedi'i dewis fel safle adweithydd modiwlaidd bach cyntaf y DU yn gam arwyddocaol i Ynys Môn ac i ogledd Cymru."
"Ar ôl blynyddoedd o ansicrwydd, gallai'r cyhoeddiad hwn o'r diwedd ddatgloi potensial Wylfa a dod â'r swyddi a'r buddsoddiad hirdymor o ansawdd uchel y mae ein cymunedau'n eu haeddu."
"Ers cael fy ethol yn AS dros Ynys Môn, ac yn flaenorol fel arweinydd y cyngor, rwyf wedi gweithio gyda busnesau lleol, arbenigwyr lleol, a'r awdurdod lleol i gyflwyno'r achos dros Wylfa – gan gyfarfod â gweinidogion Llywodraeth y DU, Great British Energy-Nuclear, ac arweinwyr y diwydiant i dynnu sylw at gryfderau unigryw'r safle a dyfnder y gefnogaeth leol."
"Mae'r cynnydd hwn yn ganlyniad blynyddoedd o bartneriaeth ar draws Ynys Môn. Ond rydym wedi bod yma o'r blaen, gyda chyhoeddiadau mawr heb weithredoedd cadarn yn eu dilyn."
"Felly, er bod newyddion heddiw i'w groesawu, bydd pobl Ynys Môn yn ei drin yn ofalus, sy'n ddealladwy, nes i ni weld amserlenni cadarn ac ymrwymiadau lleol yn cael eu cyflawni."
"Gall Wylfa fod yn drawsnewidiol i Ynys Môn, gan gryfhau ein diogelwch ynni a chreu sylfaen ar gyfer dyfodol glanach a thecach – ond dim ond os yw pobl leol yn gweld manteision go iawn a pharhaol."
"Fy ffocws rwan yw sicrhau bod y prosiect hwn yn cael ei wneud gyda'n cymunedau, nid iddyn nhw – gan greu cyfleoedd i bobl ifanc a chefnogi cadwyni cyflenwi lleol."
"Byddaf yn parhau i ddal Llywodraeth y DU at ei haddewidion a gweithio i sicrhau bod y datblygiad hwn yn gwasanaethu'r ynys a'i phobl."
Ychwanegodd arweinydd Plaid, Rhun ap Iorwerth: "Mae cyhoeddiad heddiw yn arwyddocaol i bobl ar Ynys Môn ac ar draws Gymru."
"Mae'n adlewyrchu blynyddoedd o waith caled gan Gyngor Sir Ynys Môn dan arweiniad Plaid Cymru a Llinos Medi – fel yr AS presennol a chyn-arweinydd y cyngor."
"Ers i mi gael fy ethol dros ddeuddeg mlynedd yn ôl, mae dyfodol safle Wylfa wedi parhau i fod yn fater byw ar Ynys Môn."
"Er ein bod wedi dysgu o brofiad yn y gorffennol fod angen sicrwydd arnom y bydd y cynllun yma wir yn cael ei gyflawni, does dim amheuaeth bod cyfle gwirioneddol yn fan hyn ac mae'n rhaid i ni fanteisio arno."
"Fy mhrif flaenoriaeth o'r pwynt yma yw sicrhau bod lleisiau a buddiannau cymunedau Ynys Môn yn cael eu cynrychioli ym mhob cam."
"Rwyf wastad wedi bod o'r farn bod rhaid inni wneud y gorau o'r twf economaidd a'r cyfleoedd swyddi i bobl ifanc sy'n dod gyda datblygiad newydd yn Wylfa, ond bod hefyd angen rhoi mesurau yn eu lle i liniaru'r heriau sy'n anochel gyda phrosiect o'r maint a'r natur yma."
"Mae gan Lywodraeth Cymru rôl hanfodol i'w chwarae yn y trafodaethau yma hefyd. Rwyf eisiau gwneud yn siŵr bod gan Lywodraeth Cymru fewnbwn gwirioneddol, a bod buddiannau Cymru wrth wraidd y datblygiad."
Mae'r Prif Weinidog Cymru wedi disgrifio cyhoeddiad Wylfa - a'r newyddion am 'barth twf AI' ar gyfer y Gogledd - fel buddugoliaeth ddwbl i Gymru.
Dywedodd Eluned Morgan fod y ddau ddatblygiad yn ddatganiadau pwysig am ddyfodol economi Gogledd Cymru, ac yn dystiolaeth o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio'n agos i gyflawni buddsoddiad fydd yn creu effaith am genedlaethau.
"Mae hwn yn gyhoeddiad enfawr i Ogledd Cymru, a fydd yn creu miloedd o swyddi o ansawdd uchel ac yn sicrhau manteision eang i'r economi leol."
"Ers i mi ddod yn Brif Weinidog, rwyf wedi bod yn pwyso ar bob cyfle i wireddu buddion anhygoel Wylfa fel safle ar gyfer niwclear newydd."
"Yn fy holl drafodaethau gyda'r Prif Weinidog, y Canghellor a gweinidogion eraill y DU, rwyf wedi cyflwyno ceisiadau clir ac elfennau i'w cyflawni ar gyfer Cymru. Heddiw, mae dau o fy mhrif flaenoriaethau i'n cael eu cyflawni gyda'i gilydd – buddugoliaeth ddwbl i Gymru."
Bydd Syr Keir Starmer ac Eluned Morgan yn ymweld â Llangefni ddydd Iau i gyhoeddoi'r ddau brosiect yn ffurfiol, gyda Ysgrifennydd Economi, Rebecca Evans ac Ysgrifennydd dros Gogledd Cymru, Ken Skates.
Dwyeddod Rebecca Evans: "Mae'r buddsoddiad yn Wylfa yn hwb enfawr i economi Gogledd Cymru. Bydd yn creu miloedd o swyddi medrus iawn, gyda chyflogau da, ar y safle ac yn yr economi ehangach."
"Yn ei anterth bydd 3,050 o bobl yn gweithio ar y safle i ddefnyddio a chomisiynu'r tri adweithydd modiwlaidd bach. Bydd pob un o'r adweithyddion hynny'n cynhyrchu 470MW o ynni carbon isel – digon i bweru miliwn o gartrefi am 60 mlynedd."


Gwobr y Brenin i Ganolfan Bodedern
Trefor Lloyd Hughes wedi marw yn 77 oed
Lleoliadau gwaith ar gyfer adeiladwyr ifanc
Foden: cyngor 'yn amlinellau’r camau nesaf'
Arestio dyn ar amheuaeth o droseddau hanesyddol