Ymestyn cynllun gweithredu tai yng Ngwynedd

Wednesday, 14 May 2025 01:45

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd yn ymestyn ei gynllun gweithredu tai am ddwy flynedd arall.

Mae'r cyngor yn addo adeiladu 450 o gartrefi eraill i drigolion lleol yn y sir erbyn diwedd y degawd.

Mae hyn yn dod â'r targed i dros 2,000 o gartrefi erbyn 2029, gyda £190 miliwn yn cael ei fuddsoddi a thros 17,000 o bobl yn derbyn cefnogaeth dros oes y cynllun.

Nod y cynllun, a lansiwyd ym mis Ebrill 2021, yw mynd i'r afael â'r prinder tai a sicrhau bod gan bobl leol fynediad at gartrefi fforddiadwy o ansawdd yn eu cymunedau eu hunain.

Mae'r estyniad yn dilyn newidiadau i'r sefyllfa dai, anghenion pobl Gwynedd a ffynonellau ariannol dros y blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Rowlinson, aelod cabinet Tai ac Eiddo: "Mae'r cynllun gweithredu tai yn amlinellu ein hymrwymiad i ddarparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel i bobl Gwynedd."

"Dw i'n croesawu'r ffaith, drwy ymestyn y cynllun, y gallwn nawr darparu 450 o gartrefi ychwanegol i drigolion lleol."

"Rydym yn cydnabod yn llawn yr heriau sy'n wynebu pobl y sir –  gan gynnwys argyfwng tai parhaus yng Ngwynedd, fel mewn siroedd eraill, a chostau byw sydd wedi codi'n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf."

"Er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn, mae'r cynllun tai yn parhau i fod yn strategaeth ddeinamig, sy'n esblygu. Rydym wedi gosod blaenoriaethau clir, fel cynyddu'r cyflenwad o gartrefi i bobl leol, mynd i'r afael â digartrefedd a helpu pobl y sir ymdrin efo'r argyfwng costau byw a thlodi tanwydd."

"Tai diogel, sefydlog a fforddiadwy yw'r sylfaen ar gyfer bywydau iach a hapus. Ein nod yw sicrhau bod gan drigolion Gwynedd fynediad at gartrefi sydd wir yn fforddiadwy, o fewn eu milltir sgwâr – a'n cynllun gweithredu tai ydi'r canllaw i wneud hyn yn realiti."

Hyd yn hyn, mae'r cynllun wedi cefnogi bron i 9000 o bobl ac wedi darparu 800 o unedau tai. Mae'n cael ei ariannu'n rhannol gan gronfa'r premiwm treth cyngor ar ail gartrefi a thai gwag, gyda dros £10.5 miliwn wedi cael ei fuddsoddi ers 2021.

Mae prosiectau allweddol yn cynnwys codi mwy o dai fforddiadwy, prynu eiddo i'w rentu i bobl leol, dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd, a datblygu llety â chefnogaeth i bobl sy'n profi digartrefedd.

Dwyeddod arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Nia Jeffreys: "Dw i'n gweld effaith yr argyfwng tai yn ddyddiol yng Ngwynedd, gyda theuluoedd mewn llety argyfwng, pobl ifanc methu fforddio tŷ cyntaf a phobl yn aros am gyfnod llawer rhy hir am dŷ cymdeithasol yn eu cymunedau."

"Mae mynd i'r afael â'r argyfwng yn gofyn am weithredu cadarn ac effeithiol yn San Steffan, Llywodraeth Cymru ac ar lefel lleol."

"Mae'r cyngor wedi gweithio'n galed dros y blynyddoedd diwethaf i geisio diwallu'r angen am gartrefi fforddiadwy yn y sir, ac mae'r cynllun diweddaraf yma'n gam arwyddocaol ymlaen."

"Mae'n cynnwys dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd, prynu eiddo i'w gosod i bobl leol, a darparu amrywiaeth o gefnogaeth i aelwydydd sy'n profi digartrefedd, gyda llawer o'r prosiectau yma eisoes yn dwyn ffrwyth."

"Dw i hefyd yn hynod o falch ein bod am fuddsoddi yn stad fanddaliadau'r cyngor, sy'n cynnig cartrefi i bron i 40 o deuluoedd yn Nwyfor a Meirionnydd – gan helpu i gefnogi ein cymunedau gwledig, ein heconomi a'n diwylliant."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • The Rock Surgery

    9:00pm - 11:00pm

    Now from 9pm! Join Dr. Rock for your weekly dose of Rock on MônFM.

Wedi Chwarae / Previously Played

  • 10:16pm

    City

    Y&T
  • 10:07pm

    Lock Up The Wolves

    Dio
  • 10:02pm

    Aiming High

    Accept
FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'