Mae pwerau heddlu ychwanegol ym Mangor wedi cael eu hymestyn am dair blynedd arall
Mae'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) wedi bod yn weithredol yng nghanol y ddinas ers 2019.
Penderfynwyd ei ymestyn yn dilyn cyfnod o ymgynghori yn ystod tymor yr hydref, pryd cafwyd "cefnogaeth unfrydol" i'r cynnig, yn ôl Cyngor Gwynedd.
Golygai'r gorchymyn, sy'n cael ei weinyddu gan Cyngor Gwynedd, fod gan yr heddlu bwerau ychwanegol o fewn yr ardaloedd hyn i fynd i'r afael â materion neu niwsans penodol.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi croesawu’r penderfyniad
Dywedodd y Prif Arolygydd Stephen Pawson: "Mae Heddlu Gogledd Cymru yn llwyr gefnogi ymestyn y GDMC ym Mangor i sicrhau y gallwn barhau i weithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â materion parhaus ar y Stryd Fawr."
"Mae llawer iawn o waith wedi'i wneud yn yr ardal i adeiladu gwytnwch i droseddau cyfundrefnol difrifol a lleihau troseddu ar y Stryd Fawr. Mae'r gorchymyn yn parhau i fod yn arf hanfodol i barhau â'r gwaith hwn er budd trigolion a busnesau."
Bwriad y GDMC yw targedu:
- Ymddygiad sy'n debygol o beri aflonyddwch, dychryn, niwsans neu boendod
- Ymdroi mewn cyflwr meddwol o ganlyniad i weithgaredd a ysgogwyd gan alcohol neu gyffuriau
- Yfed alcohol yn dilyn cais gan yr Heddlu i stopio yfed
- Loetran neu berfformio o fewn 10 metr o beiriant codi arian.
Mae arwyddion wedi eu gosod mewn ardaloedd allweddol o Fangor yn hysbysu pobl o'r cyfyngiadau.
Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, sy'n gyfrifol am ddiogelwch cymunedol: "Mae'r cyngor yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid o Heddlu Gogledd Cymru a'r gymuned ehangach i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mae'r GDMC wedi bod yn arf allweddol i'n helpu i wneud hynny."
"Mae mwyafrif llethol o bobl sy'n byw ym Mangor neu'n ymweld a'r ddinas yn cyfrannu at awyrgylch groesawgar a chadarnhaol, a rydym am weld pobl yn parhau i fwynhau popeth sydd gan Fangor i'w gynnig."
"Pwrpas y gorchymyn yw ei gwneud yn haws i awdurdodau fynd i'r afael â'r lleiafrif bychan o bobl sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol."


Y Gân yw Cân i Gymru 2026
Cân i Gymru yn cyhoeddi rhestr fer
Gwaith ar wella safonau tai cyngor ym Môn
Rhybuddio myfyrwyr am beryglon cetamin
Mwy o arian i adfywio Caergybi