Ymgyrch newydd er mwyn gwneud rhedeg yn saff i ferched

Friday, 7 November 2025 01:07

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae clwb rhedeg ym Môn yn cefnogi ymgyrch newydd sydd wedi’i anelu at wneud rhedeg yn saffach i ferched.

Wedi’i lansio gan Athletau Cymru, mae Ein Nos Ni ('Own the Night') yn ymgyrch cenedlaethol, sy’n wynebu’r gwirionedd yn uniongyrchol.

Dylai rhedeg deimlo'n rhydd, yn saff ac yn gyfartal ond i lawer o ferched, mae'r realiti'n wahanol iawn.

Bob hydref, wrth i'r clociau fynd yn ôl a'r nosweithiau fyrhau, mae merched ledled Cymru yn wynebu pryderon cynyddol am ddiogelwch wrth redeg yn y tywyllwch.

Nod yr ymgyrch ydy:

  • Codi ymwybyddiaeth am bryderon diogelwch merched wrth redeg gyda'r nos neu'n gynnar yn y bore.
  • Ysbrydoli merched i ddal i redeg yn hyderus trwy fisoedd y gaeaf.
  • Addysgu cymunedau sy'n rhedeg a'r cyhoedd yn ehangach ar fod yn gynghreiriaid a ffyrdd ymarferol o gefnogi merched.

Trwy straeon beiddgar, addysg ymarferol, ac ysgogiad cymunedol, mae Ein Nos Ni yn ceisio uno rhedwyr, clybiau, a'r cyhoedd i greu amgylchfyd saffach a mwy cynhwysol i ferched sy'n rhedeg.

Dywedodd Gwen Owen, sylfaenydd clwb rhedeg MônGirlsRun ar Ynys Môn: “Mae rhedeg yn rhoi amser i mi glirio fy mhen a theimlo’n gryf – ond mae adegau wedi bod lle dwi wedi teimlo bod angen newid lle dwi’n rhedeg, neu redeg yn ystod golau dydd er mwyn teimlo’n saff."

"Ar adegau, mae Dad wedi fy nilyn i ar ei feic fel fy mod yn teimlo’n saffach."

"Yn anffodus fel clwb, ‘dan ni di cael pobl yn gweiddi arnon ni, yn galw enwau a mae hynny yn syth wedi gwneud i ni deimlo’n ofnus."

"Cafwyd un digwyddiad lle roedd car yn ein pasio ni ac fe arafodd fel bod o wrth ein hochr ni wrth i ni redeg ac roedd dyn yn y car yn gweiddi a rhegi arnon ni."

"Mae rhai merched dwi’n ymwybodol ohonyn nhw wedi dweud nad ydyn nhw eisiau rhedeg ar eu pen eu hunain, a dyna pam bod ein clwb ni mor bwysig fel ein bod ni’n rhedeg hefo’n gilydd."

“Dwi’n gefnogol iawn o’r ymgyrch achos mae gan bawb yr hawl i deimlo’n saff wrth fod allan yn rhedeg a dwi’n ddiolchgar ein bod ni hefo criw o ferched cryf a chefnogol o’n cwmpas ni.”

Dywedodd Hannah Baulch, pennaeth cyfranogiad Athletau Cymru: "Mae cynnydd enfawr i'w weld yn y niferoedd sy'n rhedeg yng Nghymru ar hyn o bryd, hefo 293,000 o oedolion yn cymryd rhan yn rheolaidd trwy weithgareddau a drefnir ac yn anffurfiol."

"Ers 2020, ‘da ni wrth ein boddau bod dros hanner ein haelodau ni’n ferched sy'n rhedeg, ystadegyn na welir yn aml mewn chwaraeon eraill."

“Fodd bynnag, ‘da ni’n ymwybodol iawn bod rhedwyr benywaidd yn wynebu nifer o heriau yn ystod misoedd y gaeaf. Nid perygl y tywydd oer a'r ffyrdd llithrig yn unig sy'n dod i'r amlwg, ond eu diogelwch nhw."

Mae ymchwil gan This Girl Can yn dangos bod bron i dri chwarter (72%) o ferched y DU yn newid eu harferion nhw o ran gweithgareddau awyr agored yn ystod y gaeaf, a chanfu arolwg diweddar gan Our Streets Now fod 93% o ferched wedi profi aflonyddu rhywiol yn gyhoeddus wrth redeg.

Ychwanegodd Hannah: "Yn dilyn ein lansiad swyddogol yn y Senedd mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo gwneud ein strydoedd ni’n saffach, ond ‘da ni hefyd eisiau i gymunedau ledled Cymru gefnogi trwy fod yn oleuni i redwyr eraill trwy gynnig parch, a thrwy beidio ag anwybyddu ymddygiad gwael. Hefo'n gilydd, gallwn ni wneud gwahaniaeth gwirioneddol."

Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn cefnogi'r ymgyrch gyda swyddogion a staff yn cefnogi nifer fawr o ddigwyddiadau dros y misoedd nesaf.

Dwyeddod Amanda Blakeman, y Prif Gwnstabl: "Fel rhywun sydd yn rhedeg ac sy’n swyddog heddlu, dwi’n gwybod pa mor bwysig ydy o teimlo’n saff tra allan yn rhedeg. Ni ddylai neb gynllunio eu siwrne oherwydd ofn."

"Mae’r ymgyrch yma yn sicrhau gall merched ganolbwyntio ar eu rhedeg a nid eu diogelwch – ac am fagu cymdeithas sy’n edrych ar ôl ei gilydd."

“Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo gwneud yn siŵr bod pawb yn teimlo’n saff wrth ymarfer corff mewn mannau cyhoeddus. Gall ymddygiadau fel heclo a bygwth cyhoeddus gynyddu i droseddau mwy difrifol."

"Yn anffodus, ‘da ni’n gwybod gall rhai pobl – fel arfer merched, deimlo’n anghyffyrddus ac ofnus i fynd allan i redeg, yn enwedig yn y gaeaf pan mae’r nosweithiau’n hirach ac mae llai o gyfle i redeg yn ystod golau dydd."

"‘Da ni hefyd yn gwybod nad ydy’r achosion o aflonyddu ar ferched sy’n rhedeg yn cael eu riportio, felly byddwn ni’n annog unrhyw un sy’n profi aflonyddu neu fygythiad i riportio unrhyw bryderon i’r heddlu fel y gallwn ni roi diwedd ar yr ymddygiad yma."

Er mwyn dysgu mwy ewch ar wefan Athletau Cymru.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Brian Cook

    Noon - 2:00pm

    Great music and lots of fun to start your Monday afternoon on MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'