
Mae'r ditectifs yn holi tri llanc yn dilyn ymosodiad difrifol ym Mangor.
Cafodd llanc ei gludo i ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn digwyddiad ar Ffordd Llandegai ychydig cyn 8.30 nos Fawrth.
Roedd y ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad ond mae wedi ailagor ers hynny.
Cafodd tri pherson ifanc eu harestio mewn cysylltiad â'r ymosodiad ac maent yn cael eu cadw yn y ddalfa tra bod ymchwiliadau'n parhau.
Nid yw'r heddlu'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r ymosodiad ond bydd patrolau’n cael eu cynyddu yn ardaloedd Hirael, Maesgeirchen a’r Stryd Fawr yn y ddinas.
Mae swyddogion hefyd wedi annog y cyhoedd i osgoi dyfalu a pheidio â rhannu lluniau o'r digwyddiad ar gyfryngau cymdeithasol.
Dyweddod Jamie Owens, Arolygydd Ardal Gogledd Gwynedd: "Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd a gysylltodd â'r heddlu neithiwr ac am eu cefnogaeth tra roedd y gwasanaethau brys yn bresennol."
"Mae ymchwiliadau i'r ymosodiad yn parhau, a hoffwn ddweud wrth y cyhoedd nad oes unrhyw risg pellach iddynt yn yr achos hwn."
"Rwy'n cydnabod yr effaith y gall digwyddiadau fel hyn ei chael ar bobl ifanc, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach, ac felly rwyf am osod mwy o batrolau yn yr ardal dros y dyddiau nesaf."
"Mae'n debygol felly y bydd cymunedau yn gweld mwy o heddlu yn ardaloedd Hirael, Maesgeirchen a Stryd Fawr Bangor yn ystod y dyddiau nesaf."
"Rwyf hefyd yn ymwybodol bod fideo o'r digwyddiad hwn yn cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol, ac rwy'n annog y cyhoedd i osgoi rhannu'r fideo ar-lein, neu ddyfalu am natur y digwyddiad, gan y gall hyn amharu ar yr ymchwiliad ac achosi gofid diangen i'r bobl o dan sylw."
"Byddwn yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo'r ymchwiliad i gysylltu â'r heddlu trwy ein gwefan, trwy ffonio 101, siarad yn uniongyrchol â swyddog lleol neu drwy gysylltu â Crimestoppers yn ddienw."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am yr ymosodiad, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod C102685.
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.