Ysgol Uwchradd Caergybi newydd: hysbysiad ffurfiol

Friday, 7 November 2025 00:52

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Môn

Mae Cyngor Môn wedi cyhoeddi hysbysiad ffurfiol ar gyfer cynlluniau i adeiladu cartref newydd Ysgol Uwchradd Caergybi.

Mae'r hysbysiad statudol wedi cael ei gyhoeddi'n ffurfiol yn dilyn penderfyniad gan y pwyllgor gwaith fis diwethaf i gytuno i gyhoeddi hysbysiad statudol ar gyfer ail-leoli dysgwyr 11 i 18 oed i adeilad ysgol newydd gwerth £66 miliwn.

Os caiff y cynlluniau eu cymeradwyo, byddai'r adeilad newydd i'r ysgol yn cael ei adeiladu ger Canolfan Hamdden Caergybi, os yw'r cyngor yn llwyddo i brynu'r tir.

Trwy gyhoeddi'r hysbysiad statudol, mae'r cyngor sir yn cadarnhau ei fwriad i adeiladu adeilad ysgol uwchradd newydd i gymryd lle'r cyfleusterau presennol.

Mae hyn hefyd yn sbarduno cyfnod gwrthwynebu statudol o 28 diwrnod, tan dydd Mercher 3 Rhagfyr, a gall unigolion a sefydliadau gyflwyno gwrthwynebiadau ffurfiol i'r cynnig yn ystod y cyfnod hwnnw.

Yn dilyn y cyfnod gwrthwynebu, bydd swyddogion yn paratoi adroddiad er mwyn crynhoi ac yn ymateb i unrhyw ymatebion a dderbyniwyd.

Bydd pwyllgor gwaith y cyngor yn ystyried yr adroddiad ym mis Ionawr cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer penderfyniad terfynol erbyn mis Mawrth 2026.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, sy'n dal y portffolio addysg: "Mae cyhoeddi'r hysbysiad statudol hwn yn nodi carreg filltir bwysig yn ein cynnig i ddarparu addysg o safon uchel a chynaliadwy ar gyfer pobl ifanc yng Nghaergybi."

"Byddai amgylchedd dysgu modern newydd yn Ysgol Uwchradd Caergybi yn sicrhau fod y cyfleusterau a'r cyfleoedd gorau posib ar gael i ddisgyblion."

"Mae'r cynnig hwn yn cefnogi un o nodau strategol allweddol y cyngor - sef addysg - trwy helpu i sicrhau darpariaeth effeithiol heddiw ac ymhell i'r dyfodol."

Daeth y hysbysiad yn dilyn ymateb cadarnhaol dros ben i ymgynghoriad eang a gynhaliwyd yn ystod yr haf. Cytunodd 79% o’r rhanddeiliaid a dysgwyr a ymatebodd (1,023) gyda'r cynnig.

O'r nifer oedd yn anghytuno â'r cynigion, dywedodd rhai bod y safle newydd yn rhy bell o ganol y dref ac roedd eraill eisiau gweld yr ysgol bresennol yn cael ei hailddatblygu.

Ychwanegodd Aaron C Evans, cyfarwyddwr addysg Cyngor Môn: "Mae creu adeilad ysgol modern, pwrpasol ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi'n fuddsoddiad sylweddol mewn addysg yng Nghaergybi a'i dalgylch."

"Byddai'r prosiect hwn yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor addysg uwchradd yn yr ardal, gan ddarparu lleoedd dysgu arbenigol o'r radd flaenaf."

"Byddai cyfleuster o'r fath o gymorth i sicrhau'r profiadau a'r canlyniadau gorau posib ar gyfer ein pobl ifanc, yn ogystal â chefnogi nodau Strategaeth 'Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu'r Gymraeg' y Cyngor Sir."

Mae'r hysbysiad statudol ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi ar gael ar wefan Cyngor Ynys Môn.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • The 80s Pulse

    2:00pm - 4:00pm

    Wrap up your afternoon with two hours of classic 80s hits with Steffan Huw on MônFM!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'