Ap OgiOgi yn ennill gwobr Menter Iaith

Saturday, 21 November 2026 at 00:33

By Ystafell Newyddion MônFM

Menter Iaith Cymru

Mae ap sy'n helpu rhieni i ddysgu Cymraeg i'w plant ifanc wedi ennill gwobr genedlaethol fawr.

Roedd OgiOgi yn un o bum enillydd yn y categori Prosiect o Ragoriaeth yng ngwobrau blynyddol Menter Iaith Cymru yn Llanelli nos Iau.

Yn ôl y beirniaid, mae prosiect Menter Môn wedi helpu "i wreiddio’r Gymraeg mewn bywydau bach o'r cychwyn cyntaf".

Dyweddod Annest Rowlands, hwylusydd yr ap: "Mae OgiOgi yn ap ar gyfer rhieni newydd, darpar rieni neu ella nain a taid – unrhyw un sydd efo babi neu blentyn ac awydd dod allan o’r tŷ i gymdeithasu tra’n datblygu sgiliau yn y Gymraeg."

“Mae’n ffordd o gael gwybodaeth mewn un lle am fagu plant, beichiogrwydd, digwyddiadau lleol ac adnoddau Cymraeg. Trwy Ogi Ogi, mae teuluoedd yn derbyn negeseuon cyson am werth y Gymraeg, ac mae’n helpu i wneud y Gymraeg yn rhan naturiol o fywydau pob dydd.” 

Mae negeseuon OgiOgi am drosglwyddo iaith ar yr aelwyd yn cael eu datblygu ymhellach trwy ddefnyddio sesiynau yn y gymuned a gwaith hyrwyddo mewn person.

Dywed y beirniaid fod y prosiect yn "dangos ôl cydweithio adeiladol gyda pharterniaid" ac roeddem hefyd yn gweld fod potensial iddo gael ei ddefnyddio ledled Cymru.

Ychwanegodd Angharad Evans o Fenter Môn: "Mi oedd cael y wobr yma yn syrpreis hyfryd ar ôl teithio mor bell, felly diolch yn fawr!"

"Mae OgiOgi yn bodoli ers sawl blwyddyn, partneriaeth go iawn a ddechreuodd o fewn Fforwm Iaith Ynys Môn. Mae o wedi datblygu yn sylweddol ers i Annest fod wrth y llyw."

"Felly diolch o waelod calon iddi hi am yr ymroddiad a’r gwaith caled mae hi wedi ei roi i sicrhau ei fod yn llwyddo.”

Mae gwobrau 'Prosiect o Ragoriaeth' wedi'u hanelu at brosiectau sy'n cael effaith gadarnhaol ar ddefnydd ac agweddau at y Gymraeg.
  
Y mentrau eraill enillodd wobr oedd Menter Iaith Abertawe, Menter Dinefwr, Menter Iaith Conwy a Menter Iaith Sir Benfro. 

Dwyeddod Garmon Rhys, cyfarwyddwr BBC Cymru ac un o'r beirniaid: "Mae wedi bod yn ddiddorol iawn gweld yr holl waith da sy’n digwydd mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru."

"Ac er y gallem fod wedi gwobrwyo pob un o’r prosiectau, roeddem fel panel yn gytûn fod y pum prosiect o ragoriaeth ddaeth i’r brig yn haeddu clod arbennig."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • End the day with Dai

    10:00pm - Midnight

    Two hours of relaxing sounds to round off the weekend

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'