Lansio ap newydd i ofalwyr di-dâl

Friday, 20 November 2026 at 12:38

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Gwynedd

Mae ap pwrpasol newydd wedi'i lansio ar gyfer gofalwyr di-dâl ym Môn a Gwynedd.

Mae AiDi yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i bob gofalwr di-dâl yn y rhanbarth, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol, ac mae’n adeiladu ar ap presennol sydd ar gael i ofalwyr ifanc.

Cafodd ei lansio yn ystod digwyddiad diweddar yn Storiel ym Mangor, yn dilyn ei ddatblygu gan Gyngor Gwynedd mewn partneriaeth â Chyngor Ynys Môn a Gwasanaeth Allgymorth Gofalwyr Gogledd Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, aelod cabinet Cyngor Gwynedd dros oedolion a iechyd: "Braf iawn oedd cael bod yn y digwyddiad yn Storiel i gydnabod cyfraniad amhrisiadwy gofalwyr di-dâl, codi ymwybyddiaeth o'u rôl, a hyrwyddo mynediad gwell at wybodaeth, cyngor a chymorth."

"Mae cefnogi iechyd a lles gofalwyr di-dâl yn holl bwysig i ni yma yng Ngwynedd. Roedd gofalwyr yn dweud wrthym eu bod eisiau teclyn lle fyddai gwybodaeth ar gael mewn un man canolog - rhywbeth a fyddai’n syml, yn lleol, yn gefnogol ac yn ymarferol ac rwyf yn hyderus bod yr ap AiDi yn cynnig hynny."

"Mae cydweithio gyda phartneriaid wedi bod yn holl bwysig wrth ddatblygu ac ehangu’r ap, a hoffwn ddiolch i Cyngor Sir Ynys Môn a Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr Gogledd Cymru am eu cefnogaeth a chydweithrediad."

Mae nodweddion yr ap yn cynnwys gwneud cais am gerdyn gofalwr, pecyn gostyngiadau a cherdyn adnabod digidol, ynghyd â gwybodaeth am ddigwyddiadau lleol, cysylltiadau defnyddiol, a manylion ynglŷn â lesiant, budd-daliadau a hawliau.

Roedd y lansiad yn gyfle i ddysgu mwy am yr ap, clywed gan bartneriaid y prosiect a chael cipolwg ar sut y gall y datblygiad newydd hwn helpu i wella profiadau a chanlyniadau i ofalwyr di-dâl.

Ychwanegodd Linda Kinani o Wasanaeth Cynnal Gofalwyr: "Mae'r ap newydd hwn yn enghraifft wych o'r hyn y gallwn ei gyflawni drwy gydweithio, ac rydym yn falch o fod wedi bod yn rhan o'i ddatblygiad o'r cychwyn cyntaf er mwyn sicrhau y gall gofalwyr di-dâl ledled Gwynedd, Môn a Conwy gael mynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth yn rhwydd."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • End the day with Dai

    10:00pm - Midnight

    Two hours of relaxing sounds to round off the weekend

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'